Ai Wylfa fydd gorsaf ynni niwclear nesaf y DU? ASau yn lansio ymchwiliad newydd
26 May 2022
Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi lansio ymchwiliad newydd heddiw yn edrych ar Ynni niwclear yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae ynni niwclear carbon isel yn darparu 15% o gyflenwad trydan Prydain. Wrth i bryderon ynghylch diogelu ffynonellau ynni ddwysáu ers y rhyfel yn Wcráin, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Strategaeth Diogelu Ffynonellau Ynni, a wnaeth yn glir ei huchelgeisiau o ran ynni niwclear. Erbyn 2050, mae’n bwriadu pweru 25% o gartrefi Prydain trwy ynni niwclear. Mae Wylfa ar Ynys Môn yn un o'r safleoedd a grybwyllir yn y strategaeth a allai dderbyn sêl bendith.
Mae’r ymchwiliad newydd yn dilyn sesiwn unigol gan y Pwyllgor ym mis Medi 2021. Ar y pryd, clywodd aelodau gan arbenigwyr yn y diwydiant ac arbenigwyr diogelwch, datblygwyr posib i'r safle ac uwch-swyddog yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
Bydd y Pwyllgor nawr yn adeiladu ar y sylfaen dystiolaeth hon. Bydd yn ystyried rôl Cymru yn uchelgeisiau niwclear Llywodraeth y DU, effaith economaidd gorsaf ynni niwclear newydd yn Wylfa a datblygu technolegau niwclear, megis adweithyddion modwlar bach.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Y Gwir Anrh Stephen Crabb AS:
“Ers blynyddoedd lawer, rydym wedi gweld y drafodaeth ynghylch gorsaf ynni niwclear ar safle Wylfa yn mynd yn ôl ac ymlaen. Gyda’r Llywodraeth yn ei wneud yn glir yn ei Strategaeth Diogelu Ffynonellau Ynni bod niwclear yn bosibiliad unwaith eto, mae’n ymddangos bod Wylfa Newydd ar frig y rhestr.
“Mae ein Pwyllgor yn awyddus i graffu ar gynlluniau’r Llywodraeth i adfywio cynhyrchu ynni niwclear yng Nghymru, a chefnogaeth i dechnolegau niwclear megis adweithyddion modwlar bach. Rwy’n gwahodd unrhyw un â chanddynt farn i ddanfon eu tystiolaeth i'r Pwyllgor."
Cylch gorchwyl
Mae’r Pwyllgor yn gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig, yn cyfeirio at unrhyw un neu bob un o’r materion a welir yn y cylch gorchwyl canlynol, erbyn dydd Gwener 12 Awst 2022:
- Pa rôl y gall, neu y dylai, ynni niwclear ei chwarae wrth gyflawni sero net a diogelu ffynonellau ynni’r DU?
- Beth yw’r prif heriau i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyrraedd penderfyniad buddsoddi terfynol ar gyfer o leiaf un cynllun niwclear ar raddfa fawr erbyn diwedd y Senedd hon?
- Pa mor bwysig yw’r model cyllid i sicrhau cynllun niwclear llwyddiannus, ac ai’r model sylfaen asedau a reoleiddir (RAB) yw’r un gorau ar gyfer cyflawni hyn?
- Pa gamau ymarferol y gall Llywodraeth y DU eu cymryd i gefnogi’r diwydiant niwclear wrth ddatblygu amrywiaeth o dechnolegau niwclear, gan gynnwys adweithyddion modwlar bach?
- Beth fyddai’r gost debygol i’r trethdalwr o Lywodraeth y DU yn cefnogi datblygiad gorsaf ynni niwclear newydd yn Wylfa?
- Beth yw’r effaith economaidd bosibl i Gymru o gael gorsaf ynni niwclear newydd yn Wylfa?
Further information
Image: Ian Capper/Geograph