Tynnu sylw at chwaraeon a diwylliant Cymru wrth i ASau edrych ar dwristiaeth yng Nghymru
20 May 2022
O gerddoriaeth i’r theatr, o bêl droed i rygbi, bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn clywed gan sefydliadau diwylliannol a grwpiau chwaraeon yng Nghymru wrth i ASau barhau i gasglu tystiolaeth fel rhan o’r ymchwiliad Cymru fel cyrchfan twristiaeth byd-eang.
- Gwyliwch Parliament TV: Cymru fel cyrchfan fyd-eang i dwristiaid
- Ymholiad: Cymru fel cyrchfan twristiaeth byd-eang
- Pwyllgor Materion Cymreig
Mae chwaraeon a diwylliant yn ddau o dri philar a nodwyd fel ‘arlwy craidd’ Cymru yn Strategaeth Twristiaeth Llywodraeth Cymru. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwaith datblygu ac adnoddau marchnata er mwyn hybu’r meysydd hyn fel atyniadau allweddol i ymwelwyr.
Bydd y sesiwn yn archwilio chwaraeon a diwylliant yng Nghymru ymhellach, gan asesu sut y maent yn gallu cael eu defnyddio i hyrwyddo Cymru a chryfhau brand Cymru dramor. Bydd Aelodau hefyd yn edrych ar rai o’r heriau a’r cyfleoedd ehangach sy’n wynebu’r sector yn sgil pandemig covid-19.
Tystion am 09:30yb
- Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig a Chreadigol, Canolfan Mileniwm Cymru
- Camilla King, Cynhyrchydd Gweithredol, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
- Louise Miles-Payne, Cyfarwyddwr, Creu Cymru ac Aelod Bwrdd, UK Theatre
- Fiona Stewart, Rheolwr Gyfarwyddwr, Gŵyl Green Man
Tystion am 10.30yb
- Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu, Cymdeithas Bêl-Droed Cymru
- Matthew Williams, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, Cymdeithas Chwaraeon Cymru
Further information
Image: Unsplash