Skip to main content

Sut y gall grid ynni Cymru fod yn barod ar gyfer sero net, o ystyried y cynnydd mewn cynlluniau adnewyddadwy yn y dyfodol?

22 April 2022

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn parhau i dderbyn tystiolaeth fel rhan o’i ymchwiliad Capasiti grid yng Nghymru, wrth iddo glywed gan gyrff sy’n rhan o’r diwydiant, megis Ofgem, National Grid ESO, National Grid NGET, Ystad y Goron a’r Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu.

Bydd y sesiwn yn archwilio goblygiadau materion yn ymwneud â chapasiti grid ar gyfer y sector ynni yng Nghymru, a sut y mae hyn yn effeithio ar dargedau sero net Cymru.

Y sesiwn

Ymysg y materion sy’n debygol o gael eu trafod yn ystod y sesiwn ceir:

  • Y rhwydwaith trawsyrru a dosbarthu yng Nghymru;
  • Rôl Ofgem a rheoleiddio wrth ddiogelu’r grid at y dyfodol;
  • Rôl National Grid ESO, Gweithredwr System y Dyfodol a Gweithredwyr Rhwydwaith Ardal yng Nghymru wrth gynnig cysylltiadau ac atgyfnerthiad i'r grid;
  • Sut y gall ardaloedd gwledig gael eu cysylltu â'r grid.

Tystion

Am 10yb:

  • Peter Bingham, Prif Beiriannydd, Ofgem
  • Julian Leslie, Pennaeth Rhwydweithiau, National Grid ESO
  • Huub den Rooijen, Rheolwr-Gyfarwyddwr, Morol, Ystad y Goron

Am 10.40yb:

  • Malcolm Bebbington, Pennaeth Strategaeth Systemau’r Dyfodol, SP Energy Networks, Scottish Power
  • Ben Godfrey, Rheolwr DSO, Western Power Distribution
  • Roisin Quinn, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Cwsmeriaid, National Grid NGET

Further information

Image credit: Robin Drayton