Skip to main content

Angen am dryloywder ynghylch corfforaethau sy’n prynu tir amaeth hyfyw ar gyfer cynlluniau gwrthbwyso carbon, er mwyn atal ffermwyr rhag cael eu prisio allan o’r farchnad

7 April 2022

Mae angen mwy o dryloywder a gwybodaeth am brynu tir amaeth hyfyw yng Nghymru gan gorfforaethau sy’n defnyddio cynlluniau gwrthbwyso carbon, rhybuddia’r Pwyllgor Materion Cymreig heddiw wrth iddo gyhoeddi ei adroddiad ar ffermydd teuluol.

Mae angen mwy o dryloywder a gwybodaeth am brynu tir amaeth hyfyw yng Nghymru gan gorfforaethau sy’n defnyddio cynlluniau gwrthbwyso carbon, rhybuddia’r Pwyllgor Materion Cymreig heddiw wrth iddo gyhoeddi ei adroddiad ar ffermydd teuluol.

Tra bod ASau yn cydnabod pwysigrwydd tir coediog ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mynegwyd pryder bod cwmnïoedd o bosib yn ceisio “camddefnyddio’r system” wrth fuddsoddi mewn tir amaeth i wrthbwyso eu hallyriadau, â'r tir hwnnw felly’n cael ei golli i amaethyddiaeth yng Nghymru. Gallai ffermwyr ganfod eu hunain wedi’u ‘prisio allan’ o dir amaeth o safon gan nad yw llawer ohonynt yn medru cystadlu gyda’r prisiau y mae cwmnïoedd ariannog yn talu am y tir. Mae'r Pwyllgor yn gwahodd Llywodraeth Cymru i ystyried a oes ganddi drefniadau diogelu wrth waith i sicrhau bod gan gwmnïoedd sydd yn buddsoddi mewn gwrthbwyso carbon trwy diroedd coediog gynlluniau lleihau allyriadau credadwy. Mae hefyd yn galw ar lywodraethau Cymru a’r DU i wella tryloywder a rheoliad cynlluniau gwrthbwyso carbon, sydd, i bob pwrpas, yn creu newid mewn defnydd y tir, ac yn cynnig y gellir cael mwy o dryloywder wrth greu cofrestr o gynlluniau gwrthbwyso carbon, er mwyn gallu cadw golwg ar faint y broblem.

Mae’r posibilrwydd o ddiffyg tir ond yn un o’r materion sy’n wynebu ffermydd teuluol yng Nghymru. Mae ffermwyr Cymru yn teimlo bod yr “economeg yn drech na ffermydd teuluol” wrth sôn am y taliad sengl, oriau gwaith a rhent. Parodd bryder i’r Pwyllgor glywed bod gan tua pumed o ffermydd Cymru incwm busnes fferm o lai na sero, gydag incwm ar gyfartaledd yn dod i £26,000 y fferm.

Ceir perygl hefyd i’r traddodiadau ieithyddol a diwylliannol a gynhelir gan ffermydd teuluol. Mae sectorau amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yng Nghymru yn cynrychioli 43% o weithwyr sy’n siarad Cymraeg, a gyda ffermio yng Nghymru yn cael ei ddominyddu gan bobl dros 60 oed, pan fyddant yn ymddeol, ceir pryderon y gallai’r iaith erydu ymhellach. Mae llawer o’r cenedlaethau iau yn gadael o ganlyniad i ddiffyg gwaith ac mae’r Pwyllgor felly yn argymell y dylid cefnogi newydd ddyfodiaid i ddechrau ffermio, tra y dylai llywodraethau’r DU a Chymru weithio gyda’i gilydd i greu cynllun i gefnogi ffermwyr i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad.

Casglodd y Pwyllgor dystiolaeth ar gytundebau masnach rydd a chlywodd bryderon y gallai cynhyrchwyr o Gymru gael eu tanseilio os bydd nifer fawr o fewnforiadau rhatach yn cyrraedd marchnad y DU. Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd sicrhau bod trefniadau diogelwch yn parhau i gael eu cynnwys fel rhan o gytundebau masnach rydd gyda gwledydd â chanddynt sector allforio bwyd-amaeth fawr. Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth y DU gyhoeddi modelu effaith gronnol i ddangos effaith cytundebau masnach rydd ac, unwaith eto, mae’n argymell y dylid cyflawni asesiad effaith penodol i Gymru er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau niweidiol posibl yn deillio o gytundeb masnach rydd i’r sector ffermio yng Nghymru.

Dywedodd y Gwir Anrh Stephen Crabb AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig:

“Mae ffermio yn sector hynod bwysig a hanfodol i gymunedau ledled Cymru. Defnyddir canran enfawr—90%—o dir Cymru ar gyfer ffermio, ac o’i gymharu â Lloegr, mae’r sector ffermio yn cyflogi mwy o bobl ac yn cyfrannu mwy i economi Cymru.

“Serch hynny, mae ffermio yng Nghymru yn wynebu cyfnod heriol mewn nifer o wahanol feysydd. Clywsom bod llawer o diroedd ffermio yn cael eu colli i gynlluniau gwrthbwyso carbon ac yn cael eu gwerthu i gwmnïoedd ariannog am bris mor uchel fel nad yw ffermwyr, â sawl un ohonynt yn barod yn ei chael hi’n anodd yn gyllidol, yn medru cystadlu. Tra bod gwrthbwyso yn medru bod yn arf defnyddiol ar gyfer cyflawni sero net, rhaid bod trefniadau diogelu digonol wrth waith er mwyn osgoi gwyrddgalchu gan gwmnïoedd sydd yn dibynnu ar wrthbwyso i osgoi gwneud penderfyniadau anodd i fynd i’r afael â gwraidd y mater o allyriadau.

“Hefyd, gyda chenedlaethau hŷn yn dominyddu’r gymuned ffermio, rhaid inni sicrhau bod ganddynt lwybr addas at ymddeol, fel bod ffermio, a’r etifeddiaeth gyfoethog o draddodiadau cysylltiedig, yn parhau ymysg y cenedlaethau iau.”

Argymhellion

Dyma argymhellion y Pwyllgor Materion Cymreig:

  • Tra bod iaith a diwylliant yn gyfrifoldebau datganoledig, dylai Llywodraeth y DU ystyried sut y mae ei thriniaeth o feysydd polisi perthnasol a gedwir yn ôl yn medru helpu diogelu cyfraniad diwylliannol unigryw cymunedau ffermio Cymru. Er enghraifft, dylai Llywodraeth y DU ychwanegu’r effaith ddiwylliannol i’r broses asesu effaith ar gyfer trafodaethau masnach y dyfodol ac i gylch gorchwyl gwaith y Comisiwn Masnach ac Amaeth.

  • Dylai Llywodraeth y DU gydweithio ar gylch gorchwyl y Cyngor Allforio gyda’r llywodraethau datganoledig a mudiadau ffermio, ac ymrwymo i gael o leiaf un aelod o’r cyngor â chanddynt wybodaeth arbenigol a phrofiad yn y sector amaeth-bwyd yng Nghymru. Rydym hefyd yn galw am nifer cymesur o’r swyddogion amaeth-bwyd newydd i feddu ar wybodaeth arbenigol, adnabyddiaeth a dealltwriaeth o nodweddion gwahaniaethol y sector bwyd a diod yng Nghymru, y broses cynhyrchu bwyd yng Nghymru ac effaith penderfyniadau ar y meysydd hynny.

  • Rydym yn argymell y dylai llywodraeth y DU gyhoeddi datganiad ar effaith cytundebau masnach rydd ar y sector amaeth yng Nghymru, gan ystyried nodweddion gwahaniaethol y sector, a rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi ei data modelu effaith gronnol ar gytundebau o’r math.

  • Rydym yn argymell y dylai llywodraethau’r DU a Chymru weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y ddwy yn cyflawnu eu targedau sero net.

  • Er bod polisi amaethyddol yn gyfrifoldeb datganoledig, clywsom alwadau ar y bedair llywodraeth i sicrhau eu bod yn trafod newidiadau i’w polisïau amaethyddol priodol. Dylai Llywodraeth y DU ymgynghori trwy’r Grŵp Rhyngweinidogol newydd ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig gyda’r llywodraethau datganoledig ar feysydd cydweithio posib ac ystyried a oes cyfle i sefydlu fframweithiau ar gyfer y DU gyfan fyddai’n gosod egwyddorion trosfwaol. Rhaid bod yn glir y dylai unrhyw fframweithiau o’r math alluogi ymatebion polisi penodol ar gyfer pob cenedl.

  • Rydym yn galw ar lywodraethau’r DU a Chymru i gydweithio’n agos i gefnogi ac annog newydd ddyfodiaid i’r maes; er enghraifft, wrth barchu rôl rhydd-ddeiliaid a thenantiaid fel ei gilydd a’r gwahanol agweddau tuag at risg, cyllid, cyfalaf, enillion ar fuddsoddi, elw a nwyddau cyhoeddus. Gallai hyn drosi i fenthyciad a grantiau ar gyfer prynu a gwellanniau, megis rheoli tir neu gynaliadwyedd amgylcheddol. Gallai hefyd drosi i daliadau (cyllid) ar gyfer nwyddau cyhoeddus eraill, megis cadwraeth ddiwylliannol a chryfder cymunedol.

  • Rydym yn argymell bod llywodraethau’r DU a Chymru yn cydweithio i ddeall beth sy’n sbarduno ymadael â byd ffermio a chreu llwybrau cynaliadwy sy’n cyflawni anghenion cyllidol a galluogi’r cenhedlaeth nesaf o ffermwyr i weithredu. Nodwn y posibilrwydd yr hoffai ffermwyr a deiliaid tir/asedau dynnu cyfalaf neu ddiosg asedau trwy werthiant neu gadw asedau a’u defnyddio i greu cyllid (e.e. tynnu cyllid i lawr neu rentu).

Gwybodaeth bellach

Delwedd: Robin Greenwood o Pixabay