Skip to main content

Beth yw cyflwr plismona yng Nghymru?

25 March 2022

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn clywed mewn sesiwn unigol gan uwch-swyddogion heddluoedd Cymru.

Bydd ASau yn derbyn tystiolaeth gan Brif Gwnstabliaid yr heddluoedd ar ystod o faterion, gan gynnwys strwythur yr heddlu a chyllid. Bydd y sesiwn dystiolaeth hefyd yn debygol o archwilio’r cysylltiadau gyda llywodraethau’r DU a Chymru a chyda’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, perfformiad yr heddlu ac agweddau’r cyhoedd tuag at blismona, ynghyd â throseddau cefn gwlad.

Mae polisi plismona yng Nghymru yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU ac mae’r Swyddfa Gartref yn gyfrifol am osod strategaethau yn ymwneud â’r bygythiadau troseddol pwysicaf a sut y dylai heddluoedd ymateb iddynt. Mae rhyw draean o’r gyllideb ar gyfer heddluoedd Cymru yn dod o’r Swyddfa Gartref, gyda’r gweddill yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a thrwy’r dreth gyngor. 

Tystion o 10.00yb

  • Dr Richard Lewis, Prif Gwnstabl, Heddlu Dyfed-Powys
  • Amanda Blakeman, Dirprwy Brif Gwnstabl, Heddlu Gwent
  • Carl Foulkes QPM, Prif Gwnstabl, Heddlu Gogledd Cymru
  • Jeremy Vaughan, Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru

Further information

Image: Parliamentary copyright