Skip to main content

ASau i edrych ar yr heriau sy’n wynebu ffermio teuluol yng Nghymru

19 November 2021

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal ei sesiwn dystiolaeth gyntaf yn ei ymchwiliad newydd i ffermydd teuluol.

Mae ASau yn debygol o ddefnyddio’r sesiwn i edrych ar y prif heriau sy’n wynebu ffermydd teuluol a chymunedau ffermio yng Nghymru. Byddant yn ystyried effeithiau cytundebau masnach rydd a pholisi amgylcheddol Llywodraeth y DU ar y sector.

Bydd y Pwyllgor yn derbyn tystiolaeth gan ddau banel ac yn debygol o edrych ar bynciau sy’n cynnwys:

  • Natur unigryw ffermydd Cymru;
  • Pwysigrwydd diogelu’r iaith Gymraeg;
  • Pryderon ynghylch cwmnïoedd sy’n prynu tir amaeth er mwyn plannu coed ar gyfer gwrthbwyso carbon; a
  • Cefnogi cenedlaethau o ffermwyr y dyfodol.

Tystion

Dydd Mercher 24 Tachwedd 2021

am 10yd

  • Nick Fenwick, Pennaeth Polisi, Undeb Amaethwyr Cymru
  • John Davies, Llywydd, NFU Cymru 
  • William Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Gwladol, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

am 11:00yb

  • David Williams, Cymru – Rheolwr Partneriaethau a Chyfarwyddwr Rhanbarthol, Farming Community Network
  • Yr Athro Terry Marsden, Athro Emeritws, Prifysgol Caerdydd

Further information

Image: CCO