Skip to main content

Rhaid goresgyn rhwystrau sy'n dal ynni adnewyddadwy yn ôl yng Nghymru ar frys

29 July 2021

Bydd angen cynlluniau cliriach ar gyfer creu swyddi a sicrhau bod cymunedau’n elwa o dwf mewn datblygiadau ym maes ynni adnewyddadwy, yn ogystal â goresgyn materion yn ymwneud ag isadeiledd megis capasiti’r grid, os yw Cymru i gyflawni ei photensial o ran ynni adnewyddadwy a llawn fanteisio ar y cyfleon sy'n deillio o symud i sefyllfa sero-net. Dyma rhai o’r prif gasgliadau a geir mewn adroddiad newydd a gyhoeddir gan y Pwyllgor Materion Cymreig heddiw.

Gallai Cymru fod yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy, â chryfder ym meysydd gwynt ar y tir ac ar y môr, ynni’r haul, y tonnau a’r llanw, a photensial newydd sylweddol sy’n ymddangos ym maes gwynt arnofiol ar y môr. Er hyn, ceir diffyg strategaeth glir ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy, ac mae hyn yn achosi’r Pwyllgor i argymell datblygu a chyhoeddi ‘Cynllun Deg Pwynt’ penodol i Gymru eleni.

Dylai’r cynllun gael ei ddatblygu ochr yn ochr â phartneriaeth rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru i hyrwyddo ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn cynnwys uwchsgilio’r gweithlu presennol, gyda gwaith yn cael ei wneud cyn COP26 ym mis Tachwedd, a Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â materion capasiti’r grid gydag Ofgem i hyrwyddo cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y dyfodol. Nododd y Pwyllgor hefyd bod isadeiledd mewn porthladdoedd yn faes sydd yn galw am sylw gan Lywodraethau’r DU a Chymru, er mwyn llawn wireddu potensial y cyfleon sy’n codi o ynni adnewyddadwy ar y môr.

Wrth i wely’r môr brysuro, dylai Ystad y Goron ddatblygu dull newydd o wneud y gorau o’i botensial amgylcheddol ac economaidd, gan weithio’n agos gyda datblygwyr i sicrhau bod digon o gylchoedd prydlesu yn cael eu cynnig yn rheolaidd. Mae’r Pwyllgor yn dadlau y byddai hyn yn hanfodol ar gyfer datblygu prosiectau gwynt ar y môr ac ynni’r tonnau a’r llanw.

Ceir perygl bod bwlch cyllido presennol rhwng cyllid ar gyfer arloesi a’r cynllun Contractau Gwahaniaeth (CfD) yn dal prosiectau ynni’r tonnau a’r llanw yn ôl. Mae’r Pwyllgor yn dadlau y gallai peidio mynd i'r afael â’r bwlch cyllido hwn arwain at berygl o effeithio ar ddatblygu ar gyfer sector a allai greu £4 biliwn i economi’r DU. Ar ben hynny, dylai Llywodraeth y DU edrych ar ailgyflwyno tariffau cynhyrchu i'r Gwarant Gwerthu Clyfar (SEG), gan adeiladu ar lwyddiant Tariffau Cyflenwi Trydan (FiT), a ddenodd buddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy graddfa fach.

Yn ôl y Pwyllgor, os y gellir goresgyn y rhwystrau sy’n dal ynni adnewyddadwy yn ôl, ceir potensial sylweddol ar gyfer rhyng-gysylltydd, o ystyried cryfderau Cymru ym maes ynni adnewyddadwy, gyda’r genedl yn allforio ynni yn hytrach na’i gwtogi. Gallai hwn allforio ynni adnewyddadwy nid yn unig i weddill y DU ond tu hwnt.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, y Gwir Anrh Stephen Crabb AS:

“Gyda’r DU yn croesawu COP26 ym mis Tachwedd, ni fu erioed gyfle mwy pwysig i gydnabod y potensial yng Nghymru ar gyfer cynhyrchiant llawer mwy o ran ynni adnewyddadwy. Mae’n amlwg nad oes diffyg uchelgais yng Nghymru, ond mae angen gweld strategaeth gliriach arnom gan Lywodraeth y DU os yw Cymru am achub ar yr holl gyfleodd sy’n dod i'r golwg.

“Mae ein Pwyllgor wedi nodi cyfyngiadau yn amrywio o fylchau mewn sgiliau i faterion yn ymwneud â chysylltedd â’r grid, o drwyddedu ar gyfer gwely’r môr i wahaniaethau mewn cyllid. Er mwyn goresgyn y rhwystrau hyn, bydd angen i Lywodraeth y DU weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, ar frys a gyda phwrpas.”

Argymhellion

Dyma argymhellion y Pwyllgor Materion Cymreig:

  • Dylai Ystad y Goron barhau i fod yn rhagweithiol gyda datblygwyr i sicrhau y bydd digon o gylchoedd prydlesu gwely’r môr yn cael eu cynnig yn rheolaidd yn y dyfodol. Dylid sicrhau alinio rhwng amserlenni Ystad y Goron ar gyfer ei chylchoedd prydlesu a’r amserlenni sydd wrth wraidd penderfyniadau datblygwyr ynghylch buddsoddi.
  • Dylai llywodraethau’r DU a Chymru edrych ar ddulliau ar gyfer dosbarthu cynhyrchu cyfoeth yn deillio o brosiectau ynni adnewyddadwy i gymunedau yng Nghymru mewn modd mwy effeithiol.
  • Rhaid i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â’r bwlch cyllid ar gyfer technolegau datblygol yn ymwneud â’r môr neu beryglu cael effaith negyddol ar eu datblygiad. Dylai Gweinidogion Trysorlys y DU, ynghyd â Gweinidogion Llywodraeth Cymru, gyfarfod â chynrychiolwyr sector ynni’r môr i archwilio i ddichonoldeb cyflwyno Cytundebau Pryniant Pŵer Arloesi.
  • Dylai Llywodraeth y DU edrych ar ailgyflwyno tariffau cynhyrchu i'r Gwarant Gwerthu Clyfar (SEG) er mwyn rhoi cefnogaeth ddigonol i gynhyrchu ynni adnewyddadwy graddfa fach. Dylai Llywodraeth y DU edrych ar ailsefydlu tariff sefydlog er mwyn annog cynhyrchu ynni graddfa fach pellach.
  • Mae angen i Lywodraeth y DU weithio gyda rhanddeiliaid busnes a Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer uwchsgilio’r gweithlu presennol, llawn fanteisio ar gyfleon newydd a mynd i'r afael â’r rhwystrau, megis cyfyngiadau ar y grid, sydd ar hyn o bryd yn bygwth tanseilio’r manteision posib o symud i economi sero-net. Dylai Llywodraeth y DU, cyn COP26, alw panel lefel uchel o randdeiliaid ynghyd i ddechrau gwaith ar strategaeth ailsgilio.
  • Dylid datblygu Cynllun Deg Pwynt penodol i Gymru sydd yn darparu trywydd manwl ac uchelgeisiau, gan gynnwys manylion ynghylch rhifau swyddi. Dylid neilltuo amser seneddol er mwyn i'r cynllun hwn, sy’n benodol i Gymru, gael ei drafod gan ASau a’i gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.
  • Dylai Llywodraeth y DU gynnal perthynas gweithio agos gyda Llywodraeth Cymru, yn enwedig yn ymwneud â heriau mawr, megis capasiti’r grid ac isadeiledd y porthladdoedd. Pan yn ystyried prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, dylai Gweinidogion o Lywodraeth Cymru gael eu gwahodd i gymryd rhan yn y Grŵp Cyflenwi Gweinidogol.
  • Yn dilyn cydweithredu diweddar Llywodraeth y DU â’r UE ar grid posib ym Môr y Gogledd, dylai Llywodraeth y DU ystyried allforio pellach o’r Môr Celtaidd i'r cyfandir a chreu Parth Economaidd y Môr Celtaidd.
  • Er mwyn lliniaru’r perygl y bydd cyfyngiadau ar y grid yn rhwystro datblygu a chynhyrchu ynni adnewyddadwy, rhaid i Lywodraeth y DU gydweithredu gydag Ofgem i gynllunio buddsoddi rhagflaenol yng Nghymru, er mwyn i'r codiad sylweddol tebygol yng nghynhyrchu ynni adnewyddadwy beidio gael ei rwystro gan y cyfyngiadau difrifol presennol ar y grid.
  • Dylai Llywodraeth y DU wneud yn glir pa mor debygol yw cyllid pellach ar gyfer isadeiledd mewn porthladdoedd yng Nghymru er mwyn cefnogi ynni gwynt ar y môr. Dylid annog buddsoddi pellach mewn porthladdoedd ar gyfer porthladdoedd yng Nghymru, yn enwedig porthladdoedd y Môr Celtaidd, mewn unrhyw gylchoedd ariannu Contractau Gwahaniaeth yn y dyfodol.
  • Rydym yn annog llywodraethau’r DU a Chymru i gytuno, cyn gynted â phosib, ar y trefniadau cyllido ar gyfer porthladd rhydd yng Nghymru. Os y gellir bwrw ymlaen â’r trafodaethau hyn, dylai’r broses o wneud cais ar gyfer Porthladd Rhydd yng Nghymru roi pwyslais arbennig ar ystyriaethau sero-net a’r rhai sy’n ymwneud ag ynni adnewyddadwy.
  • Dylai llywodraethau’r DU a Chymru, yn ogystal â gweithredwyr y porthladdoedd a chwmnïoedd ynni â chanddynt ddatblygiadau yng Nghymru, ddysgu gan Ogledd Ddwyrain Lloegr, lle mae strategaeth glir, ffocws a buddsoddi gan y sectorau cyhoeddus a phreifat wedi arwain at sefydlu Porthladd Blyth fel canolbwynt ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy a swyddi yn y sector.

Further information

Image: CCO