ASau i edrych ar addysg uwch wedi Brexit
30 June 2021
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal sesiwn dystiolaeth unigol gyda chynrychiolwyr o brifysgolion Cymru ar sut y mae polisïau Llywodraeth y DU wedi effeithio ar addysg uwch yng Nghymru.
Cyn i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, cyfeiriodd sefydliadau addysg uwch at bwysigrwydd cynnal trefniadau effeithiol er mwyn cefnogi cydweithio rhyngwladol a rhaglenni cyfnewid gyda sefydliadau tramor a galluogi myfyrwyr a staff rhyngwladol i ddod i brifysgolion yn y DU.
Serch hynny, mae adroddiadau gan y Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac yn ddiweddarach gan Brifysgolion Cymru wedi tynnu sylw at rai materion allweddol fyddai angen i gymunedau gwyddoniaeth ac ymchwil eu goresgyn. Maent yn cynnwys sicrhau cyllid, er enghraifft, o raglen Horizon 2020, bod y DU yn parhau i fod yn wlad deniadol i ymchwilwyr, a chynnal rhwydweithiau cydweithrediadol.
Yn ystod y sesiwn, bydd y Pwyllgor yn edrych ar ddyfodol cynlluniau cydweithio rhyngwladol a chyllid i Addysg Uwch yng Nghymru. Bydd y Pwyllgor yn edrych ar sut y mae cynllun Turing Llywodraeth y DU yn cymryd lle cynllun cyfnewid Erasmus yr UE, a sut mae’r cynllun hwnnw yn bodoli ochr yn ochr—os o gwbl—â’r rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021.
Tystion 9am
- Yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe
- Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth
- Yr Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor
Image: CC0