Skip to main content

ASau yn holi Ysgrifennydd Cymru am y broses frechu a pharatoadau porthladdoedd yn sgil Brexit yng Nghymru

8 January 2021

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn holi Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrh Simon Hart AS a David TC Davies AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, mewn sesiwn dystiolaeth a fydd yn cwmpasu ystod eang o bynciau fel cydlyniad rhynglywodraethol wrth ymateb i covid-19, ac ymdrechion i sicrhau bod gan borthladdoedd Cymru gyfleusterau digonol i ymdrin â threfniadau tollau newydd yn dilyn Brexit.

Mae’n debygol hefyd y bydd y Pwyllgor yn holi Gweinidogion Swydda Cymru ynghylch:

  • y Gronfa Ffyniant Gyffredin
  • atomfa niwclear Wylfa ac i ba raddau y gallai Cymru elwa ar y Cynllun Deg Pwynt ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd a Phapur Gwyn Ynni Llywodraeth y DU
  • buddsoddiant mewn seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru

Tystion

Iau 14 Ionawr

Am 2.30pm

  • Y Gwir Anrh Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • David TC Davies AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru

Rhagor o wybodaeth

Image: Parliamentary copyright