ASau yn ystyried effaith y rhaglen ‘Kickstart’ yng Nghymru
8 December 2020
Bydd ASau ar y Pwyllgor Materion Cymreig yn archwilio mesurau i fynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru, yn benodol effeithiolrwydd y cynllun ‘Kickstart’, fel rhan o sesiwn dystiolaeth unigol ddydd Iau.
- Gwyliwch yn fyw ar Parliament TV o 09.30 ymlaen, ddydd Iau 10 Rhagfyr 2020
- Pwyllgor Materion Cymru
Pwrpas y sesiwn
Bydd y Pwyllgor yn ystyried safbwyntiau busnesau a phobl ifanc drwy siarad â chynrychiolwyr o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a’r Prince’s Trust, cyn holi’r Gweinidog ar gyfer Cyflogaeth, Mims Davies AS.
Disgwylir i’r paneli gael eu holi ynghylch:
- a ydy’r rhaglen ‘Kickstart’ yn cael ei dargedu’n addas neu beidio;
- risgiau sy’n deillio o’r cynllun a sut y gellir mynd i’r afael â hwy;
- sut y gellir sicrhau lleoliadau o safon i bobl ifanc; a
- sut y bydd ‘Kickstart’ yn arwain at gyflogaeth gynaladwy ar gyfer y sawl sy’n cymryd rhan.
Mae’r rhaglen ‘Kickstart’ gwerth £2bn, a lansiwyd ym mis Medi, wedi noddi lleoliadau 6 mis o hyd ar gyfer pobl ifanc sy’n derbyn Credyd Cynhwysol. Serch hynny, codwyd pryderon ynghylch materion fel a ydy’r cynllun yn targedu pobl ifanc sydd angen cymorth fwyaf, a fydd yn darparu lleoliadau o safon yn arwain at well cyfleoedd cyflogaeth, yn ogystal â thrafferthion cwmnïau bychain wrth gael mynediad at yr arian.
Ers dechrau pandemig y coronafeirws, mae diweithdra wedi codi, a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf. Roedd 9.5% o bobl ifanc rhwng 16-24 mlwydd oed yng Nghymru yn derbyn Credyd Cynhwysol ym mis Medi, ffigwr sydd wedi dyblu ers yr argyfwng.
Tystion
Am 9.30
- Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru;
- Phil Jones, Cyfarwyddwr, Prince’s Trust Cymru;
- Richard Rigby, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Prince’s Trust.
O tua 10.30 ymlaen
- Mims Davies AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol (Gweinidog ar gyfer Cyflogaeth), Adran Gwaith a Phensiynau
- Katie Farrington, Cyfarwyddwr, Credyd Cynhwysol a Pholisi Cyflogaeth, Adran Gwaith a Phensiynau
- John-Paul Marks, Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Gwaith ac Iechyd, Adran Gwaith a Phensiynau
- Sarah Pearson, Cyfarwyddwr Maes Credyd Cynhwysol, Gwasanaethau Gwaith & Iechyd Cymru a Thîm Cyflogwr Cenedlaethol a Phartneriaeth, Adran Gwaith a Phensiynau
Rhagor o wybodaeth
Image: Parliamentary copyright