ASau am edrych ar seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru
4 December 2020
Mae ASau y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan wedi agor ymchwiliad i seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar sut y penderfynir faint o nawdd a roddir i brosiectau yn ymwneud â rheilffyrdd yng Nghymru, prosiectau seilwaith a’r anghenion ynghlwm â hynny, a sut mae Llywodraethau’r DU a Chymru yn gweithio gyda’i gilydd ar hyn o bryd i reoli seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru. Bydd hefyd yn archwilio a yw Cymru wedi denu digon o fuddsoddiad mewn seilwaith o’r fath ers dechrau preifateiddio ym 1994, ynghyd â’r cyfleoedd sy’n codi i Gymru yn sgil Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb a lansiwyd yn ddiweddar.
Mae diwygio gwasanaethau trên wedi bod yn ganolbwynt i Gaerdydd ac i San Steffan dros y misoedd diwethaf. Ym mis Medi, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n dod â masnachfreinio rheilffyrdd i ben er mwyn cyflwyno model newydd sy’n canolbwyntio mwy ar ddibynadwyedd y gwasanaethau a chanlyniadau i deithwyr, tra bo Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwladoli gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru o fis Chwefror 2021 ymlaen.
Dywedodd y Gwir Anrh Stephen Crabb AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig: “Mae´r angen i fynd i’r afael â gwendidau hirdymor yn economi Cymru, a lleihau ein rhan yn newid yr hinsawdd ochr yn ochr â hynny, yn golygu bod gan fuddsoddiad yn seilwaith y rheilffyrdd rôl bwysig yn y broses adfer yn dilyn Covid.”
“Er bod posiblrwydd y bydd patrymau teithio dyddiol yn newid yn barhaol o ganlyniad i’r pandemig, bydd yr angen i uwchraddio seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth sicrhau cynnydd cyfartal a chyfrannu at greu economi targed sero o ran allyriadau carbon.”
“Bydd ein hymchwiliad yn edrych ar sut a ble y gwneir penderfyniadau ynghylch buddsoddi yn rheilffyrdd Cymru. Bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych ar lefelau buddsoddiad yn seilwaith Cymru yn y gorffennol a’r cynlluniau ar gyfer prosiectau i ddiwygio rhwydwaith y rheilffyrdd yn y dyfodol. Mae’r adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth San Steffan i gysylltedd rhwng pedair cenedl y DU hefyd yn gyfle amserol i ni ddylanwadu ar sut mae’r Llywodraeth yn mynd ati i wella seilwaith y rheilffyrdd ym mhob rhan o’r DU.”
Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig sy’n ystyried y pwyntiau canlynol, i’w chyflwyno trwy dudalen we’r Pwyllgor erbyn 26 Chwefror 2021:
- Pwy sy’n gyfrifol am seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru?
- Pa mor effeithiol yw’r cydweithredu rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru wrth reoli ac ariannu seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru?
- A ddylid datganoli’r holl gyfrifoldeb am seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru?
- Pa ganran o fuddsoddiant mae Cymru wedi ei sicrhau ar gyfer seilwaith y rheilffyrdd ers dechrau preifateiddio ym 1994, a pha mor ddigonol yw’r lefel honno?
- Sut y caiff nawdd ei glustnodi ar gyfer prosiectau seilwaith rheilffyrdd ledled y DU a sut y caiff gwahanol anghenion isadeiledd rhanbarthau a chenedlaethau’r DU eu hasesu?
- Beth fydd effaith pandemig Covid-19 ar rwydwaith y rheilffyrdd yng Nghymru (gan gynnwys cynaliadwyedd y gwasanaethau a’r effaith bosib ar fuddsoddi yn seilwaith y rheilffyrdd)?
- Pa gyfleoedd allai ddeillio i Gymru o ganlyniad i’r Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb a lansiwyd yn ddiweddar?
Further information
Image: Jeremy-Segrott-Flickr-cc2.0-