ASau yn ystyried cysylltedd digidol yng Nghymru
1 December 2020
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn clywed gan gynrychiolwyr y diwydiant cyfathrebu digidol a’u rheoleiddiwr, Ofcom, mewn sesiwn unigol ar fand eang a chysylltedd symudol yng Nghymru.
- Gwyliwch yn fyw ac ar alw ar Parliament TV
- Ymholiad: Cysylltedd Band Eang a Symudol yng Nghymru
- Pwyllgor Materion Cymreig
Mae ASau yn debygol o ofyn i gynrychiolwyr BT, Openreach, un o arloeswyr Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol cyntaf Cymru, Mike Dugine, ac Ofcom ynghylch sut maent yn hybu cysylltedd, effeithiolrwydd cynlluniau i fynd i’r afael â mannau heb ddarpariaeth digidol a’r rhai sydd wedi eu heithrio, a’r heriau mae Cymru’n eu hwynebu wrth ddarparu’r gwasanaethau hyn.
Mae pandemig y coronafeirws wedi tanlinellu pwysigrwydd gwasanaethau digidol wrth gysylltu pobl a busnesau.
Er gwaethaf gwelliannau mewn argaeledd band eang cyflym iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru’n parhau i fod â llai o ddarpariaeth band eang cyflym iawn na chenhedloedd eraill y DU, gyda dim ond 34% o arwynebedd Cymru â mynediad iddo.
Yn y cyfamser, dim ond 58% o arwynebedd y tir yng Nghymru sydd â mynediad i 4G yn yr awyr agored, o’i gymharu ag 80% yn Lloegr a chyfartaledd o 67% yn y DU. Wrth gyfeirio at heriau yn sgil tirwedd a dwysedd poblogaeth yng Nghymru, dywedodd adroddiad gan Ofcom a gyhoeddwyd y llynedd bod 10% o Gymru yn cael darpariaeth 4G gwael tra bo 5% heb fynediad o gwbl iddo.
Tystion
ddydd Iau 3 Rhagfyr 2020
Am 09.30
- Richard Wainer, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Networks, BT Group
- Kim Mears OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr, Datlbygiad Strategol Isadeiledd, Outreach
- Mike Dugine, Swyddog Busnes Digidol, Cynghorau Sirol Rhanbarthol Wrecsam a Fflint
Am 10.45 (tua.)
- Selina Chadha, Cyfarwyddwr, Grŵp Rhwydwaith a Chyfathrebu, Ofcom
- Elinor Williams, Rheolwr Materion Rheoleiddio (Cymru), Ofcom
Further information
Image: CCO