‘Ychydig iawn’ o gynnydd gan Lywodraeth y DU i sicrhau cronfa amgen i gymryd lle nawdd yr UE yng Nghymru, meddai ASau
2 October 2020
Mae Llywodraeth y DU wedi dangos ychydig iawn o gynnydd yn ei gwaith i ddatblygu cynlluniau i gynnig rhywbeth yn lle nawdd datblygu economaidd y DU yng Nghymru. Mae ei haddewidion mynych i gynnal ymgynghoriad wedi methu, a hynny’n dangos ‘diffyg blaenoriaeth’, rhybuddia ASau heddiw.
- Darllenwch y grynodeb
- Darllenwch y casgliadau a’r argymhellion
- Darllenwch yr adroddiad llawn: Cymru a'r Gronfa Ffyniant a Rennir: Blaenoriaethau ar gyfer disodli cyllid strwythurol yr UE
- [PDF 1 MB]
- Welsh Affairs Committee
Mae Llywodraeth y DU wedi dangos ychydig iawn o gynnydd yn ei gwaith i ddatblygu cynlluniau i gynnig rhywbeth yn lle nawdd datblygu economaidd y DU yng Nghymru. Mae ei haddewidion mynych i gynnal ymgynghoriad wedi methu, a hynny’n dangos ‘diffyg blaenoriaeth’, rhybuddia ASau heddiw.
Cafwyd addewid yn 2017 gan Lywodraeth y DU y byddai’n disodli cronfeydd Strwythurol a Buddsoddiant yr UE, sydd ar hyn o bryd o werth tua £375m y flwyddyn i Gymru, gan roi Cronfa Ffyniant Gyffredin yn eu lle ar ôl Brexit. Serch hynny, mewn adroddiad newydd, mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi canfod nad yw Gweinidogion y DU wedi darparu unrhyw fanylion sylweddol ynglŷn â’u cynlluniau a bod sawl mater heb ei ddatrys, er mai cwta dri mis sydd cyn i’r cyfnod pontio ddod i ben.
Mae’r ASau yn galw ar y Llywodraeth i gynnig sicrwydd ar frys ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin a sicrhau na fydd arian gan yr UE yn dod i ben yn ddisymwth ym mis Ionawr 2021. Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth y DU i nodi dyddiad penodol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth gynhwysfawr ynglŷn â’r Gronfa, gan gynnwys ei strwythur a sut y bydd yn cael ei hariannu a’i gweinyddu. Mae’r adroddiad yn ychwanegu y dylid cynnal ymgynghoriad gyda’r holl randdeiliaid perthnasol i drafod eu blaenoriaethau ar gyfer y Gronfa yn sgil COVID-19, o ystyried bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi addasu nawdd Strwythurol a Buddsoddiant yr UE er mwyn ymateb i bandemig COVID-19.
O ystyried diffyg eglurder Llywodraeth y DU hyd yn hyn, mae’r Pwyllgor hefyd yn cyflwyno ei brif flaenoriaethau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae’r blaenoriaethau yn cynnwys:
- Maint y gronfa: Dylai’r swm ariannol fod yn seiliedig ar anghenion a dylid cynnal y swm presennol mewn termau real o leiaf. Dylid ystyried y cyllid ar sail hirdymor, ond dylai hefyd fod yn hyblyg i ymateb i iechyd yr economi wrth i Gymru, a gweddil y DU, geisio adfer yn sgil pandemig COVID-19.
- Hyd y cyfnod nawdd: Ar hyn o bryd, mae’r UE yn defnyddio system sy’n seiliedig ar fframwaith gyllidol dros gyfnod o saith mlynedd, sy’n golygu bod gan ardaloedd sicrwydd ynghylch faint o gyllid sydd ar gael iddynt. Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad y dylid cyllido’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ôl fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion a fframwaith gyllidol dros sawl blwyddyn er mwyn caniatáu dyraniad teg a chynllunio a gweithredu effeithiol. Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd cyllid dros gyfnod o flynyddoedd yn parhau, ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried o ddifrif y ffyrdd posib o gyfrifo anghenion cyllidol Cymru.
- Gweinyddu’r cyllid: Beth bynnag yw rôl Llywodraeth y DU wrth weinyddu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae’r Pwyllgor yn dod i’r casgliad y dylai’r Gronfa fod yn seiliedig ar yr egwyddor o gydweithio a phartneriaeth rhwng Llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig a llywodraeth leol. Mae ASau yn argymell y dylai Llywodraeth y DU weithio ar y cyd gyda’r gweinyddiaethau datganoledig a llywodraeth leol i ddatblygu ‘memorandwm cyd-ddealltwriaeth’ fydd yn atgyfnerthu sut i weithredu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Dylai’r memorandwm fod yn seiliedig ar bartneriaeth a dylai bwysleisio cydweithio ac ymgysylltu rhwng yr holl rhanddeiliaid, gan gynnwys y trydydd sector.
- Rôl llywodraeth leol a’r Cytundebau Dinesig a Thwf: Dylai Llywodraethau’r DU a Chymru ystyried yn ofalus rôl llywodraethau lleol wrth weithredu’r Gronfa. Dylai gweinyddiaeth y DU a’r rhai datganoledig geisio dysgu sut i gydweithio, gan hyrwyddo hynny drwy’r Cytundebau Dinesig a Thwf, a sut y gellir trosglwyddo’r gwersi hynny i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Wrth ddylunio’r gronfa, dylai Gweinidogion ystyried y cyfleoedd a fyddai o bosib yn galluogi i’r Cytundebau gyflenwi’r trefniadau cyllid newydd.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Stephen Crabb AS:
“Wrth i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ac yn sgil effaith pandemig COVID-19, mae’r cyfnod presennol yn un eithriadol – ac yn gyfle unigryw – i ddylunio system nawdd strwythurol a rhanbarthol mwy ymatebol a chymwys.
“Serch hynny, mwy na thair blynedd ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei bwriad i ddisodli cronfeydd yr UE a rhoi Cronfa Ffyniant Gyffredin yn eu lle, nid yw union natur y Gronfa yn glir. Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Galwn ar y Llywodraeth i gyflwyno’i chynlluniau a rhoi sicrwydd ar frys na fydd y nawdd yn dod i ben yn ddisymwth ym mis Ionawr 2021.
“Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cynnig cyfle i ailosod ac ail-werthuso blaenoriaethau economaidd Cymru a datblygu system newydd sydd yn mynd i’r afael â’r rhesymau dros dangyflawni economaidd Cymru. Ceir amrywiaeth barn ynglŷn â sut i weinyddu’r Gronfa, ond rydym yn sicr y dylai’r Gronfa fod yn seiliedig ar egwyddor o gydweithio a phartneriaeth rhwng Llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig a llywodraeth leol.”
Further information
Image: nick-fewings-unsplash