Skip to main content

Ysgrifennydd Cymru yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor

7 September 2020

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrh Simon Hart AS, ac Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, David TC Davies AS, yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig ddydd Iau am 14.30.

Pwrpas y sesiwn

Bydd y sesiwn eang yn debygol o archwilio:

  • datblygiadau diweddaraf y Gronfa Ffyniant Gyffredin;

  • negodiadau masnach Brexit a’u goblygiadau i Gymru;

  • cyflwr y berthynas rynglywodraethol rhwng llywodraethau Prydain a Chymru;

  • cefnogaeth i fusnesau Cymru wrth iddynt adfer eu hunain yn sgil y pandemig coronafeirws; a’r

  • Ddeddf Marchnad Fewnol.

Tystion

Dydd Iau 10 Medi 2020, Ystafell Thatcher, Tŷ Portcullis

Am 2.30pm:

  • Y Gwir Anrh Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru;

  • David TC Davies AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru

Gwybodaeth bellach

Delwedd: Hawlfraint Seneddol