Skip to main content

Y Pwyllgor Materion Cymreig yn lansio ymchwiliad newydd i economi Cymru a Covid-19

24 April 2020

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi lansio ymchwiliad heddiw i oblygiadau economaidd pandemig coronafeirws (Covid-19) i Gymru a'r gefnogaeth tymor byr a hirdymor sydd ei hangen er mwyn ailadeiladu economi Cymru yn dilyn yr argyfwng.

Mae'r byd yn ceisio dygymod â sgil effeithiau un o'r pandemigau gwaethaf mewn cof. Bu farw'r person cyntaf o'r coronafeirws yng Nghymru ar 16 Mawrth. Erbyn 30 Mawrth, roedd y nifer wedi codi i 109, a'r nifer bum gwaith yn uwch yn ystod y pythefnos olynol.[1] Yn y cyfamser, gosodwyd cyfyngiadau ar deithio er mwyn diogelu bywydau drwy atal y feirws rhag lledaenu, sydd wedi effeithio'n fawr ar yr economi. Ceir pryderon ynghylch sut y gall economi Cymru, sy'n dibynnu'n helaeth ar economi tymhorol, oroesi a chael ei hadfer lle bo cyfyngiadau'n parhau.

Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar y tirlun economaidd yng Nghymru yn ystod ac ar ôl y pandemig. Bydd y Pwyllgor yn ystyried y strategaeth mwyaf priodol i Gymru er mwyn dod â'r mesurau argyfwng i ben, y gefnogaeth fydd ei angen ar fusnesau ac unigolion er mwyn goroesi'r argyfwng ac ail-adeiladu yn ei sgil, a'r hyn y gellir ei ddysgu o'r pandemig ar gyfer delio ag unrhyw argyfyngau yn y dyfodol. Bydd yr ymchwiliad hefyd yn edrych ar ba mor effeithiol y bu'r cydweithio rhwng Llywodraethau'r DU a Chymru wrth gefnogi economi Cymru, a'r gwersi a ddysgwyd ar gyfer y dyfodol.

Sylwadau'r Cadeirydd

Dywedodd y Gwir Anrh Stephen Crabb AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig:

“Mae argyfwng y coronafeirws eisoes yn cael effaith ddofn ar economi Cymru, gyda llawer o gwmnïau wedi cau dros dro a channoedd ar filoedd o weithwyr ar ffyrlo. Ar yr un pryd, mae gweithwyr y GIG sydd ar y rheng flaen a'r cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru yn rhan o ymdrech genedlaethol nodedig i leihau lledaeniad y feirws ac achub bywydau.

Wrth i Lywodraethau'r DU a Chymru barhau i ddatblygu eu polisïau ar gyfer cefnogi busnesau a theuluoedd yn ystod yr argyfwng, mae'n amserol ein bod yn edrych ar effeithiolrwydd eu hymdrechion ar y cyd ac yn unigol. O ganlyniad, bydd gwaith y Pwyllgor Materion Cymreig yn canolbwyntio ar yr ymateb i'r coronafeirws yng Nghymru a'r hyn fydd ei angen er mwyn adfer economi Cymru unwaith bydd y cyfyngiadau yn cael eu codi.

Dyma'r cyfnod mwyaf heriol i Gymru ers sefydlu llywodraethu datganoledig, a´r prawf pwysicaf erioed i berthynas y DU a Chymru.”  

Cylch gorchwyl 

Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig sy'n ystyried y pwyntiau canlynol, i'w chyflwyno trwy dudalen we‘r Pwyllgor tan 15 Mai 2020:

  • Oes angen codi'r cyfyngiadau ledled y DU neu a fydd angen i Gymru ddatblygu cynllun ar wahân ar gyfer lliniaru'r cyfyngiadau ar fusnesau a'r cyhoedd?
  • Oes unrhyw fudd i Gymru ddatblygu cynllun ar wahân i weddill y DU er mwyn lliniaru cyfyngiadau ar deithio, a pha mor ymarferol fyddai cael cynllun o'r fath?
  • Pa hyblygrwydd ychwanegol sydd ei angen er mwyn cefnogi diwydiannau tymhorol fel twristiaeth a ffermio yn ystod y pandemig?
  • Pa gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen ar economi Cymru er mwyn gallu goroesi yn ystod y pandemig a chael ei hadfer maes o law?
  • Pa mor effeithiol yw'r cydweithio rhwng Llywodraethau'r DU a Chymru er mwyn sicrhau digon o gefnogaeth i economi Cymru yn ystod ac ar ôl y pandemig?
  • Pa bwerau ariannol a hyblygrwydd cyllidol y dylai Llywodraeth Cymru ei gael er mwyn gallu ymateb i'r pandemig?
  • Pa gefnogaeth sydd ei hangen gan y sector bancio i allu cefnogi busnesau a sefydliadau yn ystod y pandemig a'r cyfnod ail-adeiladu maes o law?
  • Pa gefnogaeth sydd ei hangen ar grwpiau allweddol o'r boblogaeth, gan gynnwys yr henoed a'r sawl sydd newydd golli eu gwaith, gan Lywodraethau'r DU a Chymru yn ystod ac ar ôl y pandemig?
  • Beth a ellir ei wneud i sicrhau bod economi Cymru yn gryfach wrth wynebu argyfyngau'r dyfodol, ynghyd ag unrhyw achosion pellach o Covid-19 ac unrhyw bandemig arall?
  • Sut y gall cadwyni cyflenwi ddatblygu ar ôl y pandemig hwn a sut gall y ddwy lywodraeth gydweithio i gefnogi'r newidiadau hyn?
  • Pa wersi y gellir eu dysgu o'r pandemig ac o ymateb gwledydd eraill er budd economi Cymru yn y dyfodol?

Nodiadau i'r Golygydd

Gellir gweld ystadegau cyfredol ar y coronafeirws yng Nghymru ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.