Skip to main content

Gweinidogion Cymru dros Gyllid a'r Economi yn cael eu holi ar Covid-19

22 June 2020

Bydd Gweinidog Cyllid Cymru Rebecca Evans a Gweinidog yr Economi Cymru Ken Skates yn ymddangos ger bron y Pwyllgor Materion Cymreig er mwyn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor i Economi Cymru a Covid-19.

Wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio yn araf deg ym mhob rhan unigol o'r DU, gwelir dechrau ystyried y gwersi i'w dysgu o argyfwng y coronafeirws a'r gweithredoedd adferol fydd yn cefnogi adfer yr economi.

Disgwylir i'r Gweinidogion gael eu holi ynghylch:

  • cysylltiadau rhynglywodraethol wrth ymateb i'r pandemig;
  • y goblygiadau economaidd a chyllidol i Gymru yn sgil coronafeirws; a
  • chefnogaeth i fusnesau a diwydiannau yn ystod ac yn dilyn y pandemig.

Tystion am 9.30

  • Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid, Llywodraeth Cymru
  • Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru

Rhagor o wybodaeth

Image: Pixabay