Skip to main content

Y Pwyllgor Materion Cymreig yn bwriadu ymchwilio i olynydd cyllid yr UE

5 March 2020

Heddiw mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn lansio ymchwiliad i amcanion, gweinyddiaeth a gweithrediad y Gronfa Ffyniant Gyffredin arfaethedig. Mae'r gronfa wedi ei chlustnodi i ddisodli Cronfeydd Strwythurol yr UE sydd wedi cyfrannu £375 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn.

Yn dilyn ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd, bydd Cronfeydd Strwythurol yr UE yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr 2020. Er bod Llywodraeth y DU wedi addo Cronfa Ffyniant Gyffredin i ddisodli'r Cronfeydd Strwythurol, nid yw wedi nodi yn union faint o gyllid fydd ar gael, ac i bwy, ac i ba raddau y bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ei weinyddu hyd yn hyn. Yn y cyfamser, nid yw effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol yr UE a'u hamcanion o ran hyrwyddo datblygiad cyfartal a chynaliadwyedd ynghyd â mynd i'r afael ag anghyfartaledd cymdeithasol yn glir o hyd. Bydd yr ymchwiliad yn archwilio'r materion hyn, gan werthuso trefniadau presennol y Cronfeydd Strwythurol er mwyn cynnig arweiniad ar sut y gellid strwythuro a rheoli'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn llwyddiannus, gan hefyd ystyried sut i flaenoriaethu gwariant.

Sylwadau'r Cadeirydd

Dywedodd y Gwir Anrh Stephen Crabb AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig:

“Mae'n hanfodol bod Cymru'n derbyn cyfran deg o'r cyllid unwaith y bydd y system bresennol ar gyfer cyllido Ewropeaidd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr. Mae sefydlu Cronfa Ffyniant Gyffredin yn cynnig cyfle pwysig i ystyried pa mor effeithiol oedd gwariant a gweithrediad cronfeydd strwythurol yng Nghymru a sut i fynd ati i gynllunio trefn gyllido newydd a fydd yn rhoi cymaint o werth â phosib i bobl Cymru. Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar sut y gellid defnyddio'r Gronfa Ffyniant Gyffredin i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru.”

Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig sy'n ystyried y pwyntiau canlynol i'w chyflwyno drwy wefan y Pwyllgor erbyn dydd Mawrth 21 Ebrill 2020:

•  Pa mor effeithiol a fu'r trefniadau presennol ar gyfer rheoli'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd? 
•  Pa effaith a gafodd y Cronfeydd Strwythurol ar economi Cymru?
•  Beth allwn ei ddysgu gan drefniadau blaenorol y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru?
•  Beth ddylai blaenoriaethau ac amcanion y Gronfa Strwythurol Gyffredin fod a pha welliannau, os o gwbl, sydd eu hangen ar y drefn bresennol ar gyfer cyllido Ewropeaidd?
•  Faint o gyllid a ddylai Cymru ei dderbyn, a sut y dylid ei gyfrifo yn y dyfodol? 
•  A ddylid clustnodi cyllid ar sail cenedlaethol neu ranbarthol neu a ddylai'r gronfa fod yn agored i dendro cystadleuol?
•  Faint o amser sy'n briodol ar gyfer pob trefn gyllido? Sut y dylid rhannu'r cyfrifoldeb am gyllido a gweinyddu'r gronfa rhwng Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig?  
•  Pa rol y gallai neu y dylai llywodraeth leol, a chynlluniau twf neu ddinesig lle bo'n briodol, eu cymryd wrth weithredu'r gronfa? Oes unrhyw oblygiadau i reolau cymorth gwladwriaethol?

Gwybodaeth bellach

Delwedd: PC