Llywodraeth Cymru yn rhoi tystiolaeth ar fasnachfraint Cymru a'r Gororau
17 October 2016
Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn cymryd tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a grwpiau diddordeb am y fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
- Gwyliwch Parliament TV: Masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau
- Ymchwiliad: Masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau
- Pwyllgor Materion Cymreig
- English
Tystion
Dydd Llun 17 Hydref, Ystafell Grimond, Portcullis House
O 4.15yh
- Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwedd, Llywodraeth Cymru
O 5.00yh
- Y Cynghorydd Samantha Dixon, Cadeirydd, Tasglu Rheilffyrdd Gogledd Cymru a Mersi Ddyfrdwy
- Ashley Rogers, Cadeirydd, Cyngor Busnes Gogledd Cymru
- Iwan Prys-Jones, Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Pwrpas y sesiwn
Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r fasnachfraint ar hyn o bryd ond nid oes ganddynt yr awdurdod i osod manylebau na phenderfynu pwy fydd yn ennill y cytundeb newydd. Mi fydd y sesiwn yma yn asesu pa fodel a ffefrir ar gyfer y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys cynigion ar gyfer masnachfraint dielw. Mi fydd y Pwyllgor hefyd yn craffu ar allu'r Llywodraeth i dderbyn rhagor o bwerau i benderfynu ar ddarpariaeth rheilffyrdd a lefel eu cydweithrediad gyda Llywodraeth y DU.
Mi fydd y Pwyllgor hefyd yn clywed wrth gynrychiolwyr Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Thasglu Rheilffyrdd Mersi a'r Ddyfrdwy. Y gobaith yw y bydd y cyrff yn rhoi cipolwg ar safon y fasnachfraint presennol yng Ngogledd Cymru ynghŷd â chynnig gwelliannau i hybu'r econmi leol.
Gwybodaeth bellach
Delwedd: iStockphoto