Cau canolfannau ac ansicrwydd yn bygwth economi a chymdeithas Cymru
4 November 2019
Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth y DU i roi eglurder ynghylch y sector amddiffyn yng Nghymru, ac mae'n mynegi pryderon ynghylch cau canolfannau milwrol ac effaith bosib unrhyw newidiadau ar y gymuned leol.
Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau na fydd cau canolfannau yn arwain at leihau cyfraniad y sector amddiffyn yng Nghymru.
Dylai Llywodraeth y DU ystyried a fyddai'n bosib symud o leiaf un o'r tair uned Gymreig sy'n hyfforddi ar gyfer brwydr o Loegr i Gymru, ailystyried y penderfyniad i symud Ysgol Hyfforddi'r Llu Awyr, a rhoi sicrwydd ynghylch adleoli catrodau a chynlluniau ar gyfer maes awyr Sain Tathan.
Yn ogystal, mae'r Pwyllgor yn nodi pryderon yn sgil gostyngiad yn y niferoedd recriwtio. Clywodd mai 2% yn unig o'r Lluoedd Arfog sydd wedi eu lleoli yng Nghymru, er bod Cymru yn cynrychioli 5% o boblogaeth y DU. Ac mae'n bosib y bydd y ganran hon yn gostwng ymhellach i 1% os bydd y canolfannau yn cau, yn unol â bwriad Llywodraeth y DU. Yn wir, mae'r Pwyllgor yn gofyn i'r Llywodraeth ddangos ymrwymiad clir i gynnal niferoedd y lluoedd yng Nghymru, ymrwymiad tebyg i'r un a wnaed gyda'r Alban.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, David T.C. Davies AS:
"Mae cyfraniad Cymru i ddiwydiant amddiffyn y DU yn anhepgor, ond mae penderfyniadau Llywodraeth y DU yn ddiweddar yn peryglu rôl hanfodol Cymru yn y Lluoedd Arfog. Mae Cymru wedi cyfrannu'n helaeth at y Lluoedd Arfog ar hyd y blynyddoedd, wedi darparu lleoliadau ar gyfer canolfannau a meysydd hyfforddi, ac wedi bod yn rhywle y gall ein diwydiannau amddiffyn ac awyrofod arloesi.
"Bydd y penderfyniad i gau dwy o brif ganolfannau'r fyddin yng Nghymru— gwersyll Aberhonddu a Chawdor—yn ogystal â gosod unedau o filwyr yn agos at ei gilydd yn ne Lloegr yn cael effaith sylweddol ar y cymunedau cyfagos sydd wedi creu cysylltiadau agos gyda'r Lluoedd Arfog am genedlaethau, ac ar y teuluoedd sydd wedi cyfrannu'n ariannol ac yn ddiwylliannol i'r ardal leol. Yn ogystal, mae lleoli'r holl unedau Cymreig sy'n hyfforddi ar gyfer brwydr y tu allan i Gymru yn gosod her fawr o ran cynnal cysylltiadau a hunaniaeth Gymreig yr unedau hyn.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wneud rhagor i warchod cyfraniad hollbwysig Cymru a'r Cymry – yn y gorffennol ac wrth edrych tua'r dyfodol - i'r Lluoedd Arfog a'r diwydiant amddiffyn."
Mae prif argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw cau canolfannau yn arwain at leihau cyfraniad y sector amddiffyn yng Nghymru.
Mae angen cadarnhau penderfyniadau yn ymwneud â symud catrodau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru yn fuan iawn, a dylid ystyried a fyddai'n bosib symud o leiaf un o'r unedau Cymreig sy'n hyfforddi ar gyfer brwydr o Loegr i Gymru.
Mae'n hollbwysig bod Llywodraethau'r DU a Chymru yn cynnig cynlluniau clir ar gyfer maes awyr Sain Tathan yn y dyfodol, a dylent ailystyried y penderfyniad i symud Ysgol Hyfforddi'r Llu Awyr oddi yno.
Dylai Llywodraeth y DU osod targedau recriwtio penodol ar gyfer Cymru a mesur perfformiad yn ôl y targedau hyn.
Dylid lleihau'r pellter teithio i ymgeiswyr i'r Fyddin, gan gynnwys defnyddio hybiau a chanolfannau dros dro ym mhob rhan o Gymru.
Dylai Llywodraeth y DU symleiddio prosesau gwneud cais am gytundebau a darparu rhagor o gefnogaeth, yn enwedig ar gyfer busnesau bach a chanolig.
Dylai Llywodraeth y DU sicrhau nad yw unrhyw benderfyniadau ehangach ynghylch amddiffyn yng Nghymru yn cael effaith negyddol ar unrhyw fusnesau a chadwyni cyflenwi yng Nghymru sydd wedi cael llwyddiant wrth wneud cais am brosiectau.
Image: PA