Lansio ymchwiliad Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau
20 July 2016
Mi fydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal ymchwiliad i Fasnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
Trenau Arriva Cymru sy'n gweithredu'r masnachfraint nes i'r cytundeb ddod i ben yn 2018. Mi fydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y perfformiad presennol gyda'r bwriad o gynnig argymhellion ar gyfer y dyfodol, yn benodol ynghylch caffael.
Cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig
Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i ystyried y canlynol:
- Beth yw'r profiad presennol o safon perfformiad y masnachfraint?
- Pa wersi y gallwn ddysgu o'r masnachfraint presennol?
- Pa welliannau i wasanethau cwsmeriaid y gellir disgwyl yn y masnachfraint newydd?
- Pa gydweithrediad sydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU wrth benderfynu sut i weithredu a rheoli gwasnaethau cwsmeriaid rheilffyrdd yng Nghymru?
Dyddiad Cau cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau ysgrifenedig yw dydd Gwener, 26 Awst am 4.00 yh.
Sylwadau'r Cadeirydd
Wrth lansio'r ymchwiliad, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor David TC Davies:
"Mae mwyafrif helaeth o wasanaethau Cymru yn rhan o fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, gan gynnwys nifer o gysylltiadau â Lloegr. Rydym wedi lansio'r ymchwiliad yma i geisio deall lefel y perfformiad presennol ac unrhyw welliannau posib yn y dyfodol.
Ry' ni am geisio deall sut y mae Llywodraeth Cymru a'r DU yn cydweithio er mwyn sicrhau'r gwasanaeth orau i bobl Cymru. Wrth i gwmniau ddechrau cystadlu am y fasnachfraint newydd yn fuan, mae'n hollbwysig fod y materion yma yn cael eu hasesu."
Gwybodaeth bellach
Delwedd: iStockphoto