Y Pwyllgor yn holi Ford ynghylch cau ffatri Pen-y-Bont ar Ogwr
3 July 2019
Yn dilyn cyhoeddiad bod Ford yn bwriadu cau ei ffatri peiriannau ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn 2020, penderfyniad a fydd yn peryglu 1,700 o swyddi, bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn gwrando ar dystiolaeth gan Ford, undebau llafur, yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru ar effaith a goblygiadau hyn ar Ben-y-Bont a De Cymru.
Cefndir
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd cwmni Ford ei fod yn bwriadu cau'r ffatri ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, De Cymru, ym Medi 2020, sy'n golygu colli 1,700 o swyddi yn ogystal â rhai sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi. Dywedodd Llywydd Ford of Europe, Stuart Rowley, bod cynaliadwyedd yn un o'r rhesymau dros gau'r ganolfan. Disgrifiodd yr undebau llafur y penderfyniad fel "ergyd drom" i'r economi leol.
Pwrpas y sesiwn
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn holi Cadeirydd Ford of Europe, Steven Armstrong, am y penderfyniad i gau ffatri Pen-y-Bont. Bwriada'r Pwyllgor holi a oedd Brexit wedi chwarae rhan ym mhenderfyniad Ford, a oes lle i newid y cynlluniau i gau'r ffatri ac ai dyma'r cyntaf o gyfres o benderfyniadau gan y cwmni i gau canolfannau.
Yn ystod yr ail banel, bydd y Pwyllgor yn clywed gan undebau a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr, sydd wedi lleisio pryderon dwys ynglŷn â'r penderfyniad i gau'r ffatri. Bydd y Pwyllgor yn holi'r panel am y gefnogaeth a gynigir i'r sawl fydd yn colli eu swyddi a'r effaith ehangach sydd i'w ddisgwyl ar yr economi.
I orffen, bydd y Pwyllgor yn holi Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ynglŷn â thrafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Ford cyn y cyhoeddiad, y gefnogaeth fydd ar gael yn y dyfodol i'r sawl fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad i gau'r ffatri a thaliadau gan y Llywodraeth i annog busnes yn Ne Cymru.
Tystion
Dydd Llun 8 Gorffennaf
Panel 1 – tua 16.15
- Steven Armstrong, Cadeirydd, Ford of Europe.
Panel 2 – tua 16.45
- Jeff Beck, Trefnydd Rhanbarthol, Undeb GMB.
- Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol Cymru, undeb Unite.
- Y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr.
Panel 3 – tua 17.15
- Ken Skates AM, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru.
Gwybodaeth bellach
Delwedd: PC