Skip to main content

Aberystwyth yn cynnal digwyddiad Pwyllgor ar Brexit

22 November 2016

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn dod i Aberystwyth Ddydd Llun 28 Tachwedd i gynnal yr ail mewn cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus i drafod effaith Brexit ar Gymru. Mae'r Pwyllgor am glywed barn y cyhoedd ar beth ddylai'r Llywodraeth flaenoriaethu yn ystod trafodaethau Brexit. Mi fydd y digwyddiad hefyd yn cynorthwyo'r Pwyllgor wrth iddyn nhw benderfynu ar ffocws benodol eu hymchwiliad i effaith canlyniad refferendwm yr UE ar Gymru.

Dweud eich dweud

Mi fydd y sesiwn benodol yma yn Aberystwyth yn ystyried y materion canlynol a'u heffaith bosib ar Gymru wrth i'r DU adael yr UE.

  • Amaeth
  • Yr Iaith Gymraeg a'r Celfyddydau
  • Addysg Uwch
  • Grantiau Ewropeaidd

Manylion digwyddiad

Am ragor o wybodaeth ac i drefnu'ch lle, ewch at dudalen y digwyddiad (gwefan allanol) os gwelwch yn dda.

Dydd Llun 28 Tachwedd 2016, 11yb-1yh

Medrus 1
Adeilad Penbryn
Campws Penglais
Prifysgol Aberystwyth
SY23 3FL

Sylwadau'r Cadeirydd

Wrth gyhoeddi'r digwyddiad, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor David TC Davies:

"Wrth i'r DU ddechrau ar y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n hollbwysig ein bod yn deall yr effaith unigryw ar Gymru. Wrth i ni ddechrau'r ymchwiliad yma, ry' ni'n credu ei bod hi'n bwysig siarad yn uniongyrchol â phobl Cymru er mwyn dod at wraidd eu rhesymau dros bleidleisio a deall sut y dylsem flaenoriaethu ein ffocws wrth i ni graffu ar y trafodaethau.”

Mi fydd y digwyddiad yma yn Aberystwyth yn asesu'r hyn allai effeithio ar bobl leol. Ydych chi'n pryderu am dwristiaeth yn eich ardal?  Pa effaith fydd ar ddiwylliant Cymreig? Ac ar amaeth yng Nghymru? Rydym am glywed yr hyn sy'n bwysig i chi'n bersonol."

Gwybodaeth bellach

Delwedd: Parliamentary copyright