Skip to main content

Angen sicrhau rhagor o drenau os am oresgyn methiant aruthrol y fasnachfraint presennol

20 January 2017

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i fuddsoddi'n sylweddol yn natblygiad rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Rhaid cymryd camau i sicrhau cerbydau modern ar y rheilffyrdd, gan fod y cerbydau presennol yng Nghymru ymysg yr hynaf yn y DU. Daw eu casgliadau cyn i Lywodraeth Cymru dderbyn y pwer i benderfynu ar weithredwyr masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau yn 2018.

Mae nifer y teithwyr wedi cynyddu tua 75%

Yn 2003, cyflwynwyd masnachfraint presennol Cymru a'r Gororau ar ffurf cytundeb 15 mlynedd o hyd. Nid oedd unrhyw ystyriaeth ar y pryd o'r twf posib yn niferoedd y teithiwr, nag unrhyw  ddarpariaeth ar gyfer cynyddu capasiti trenau. Ers 2003, mae 'na gynnydd o 75% wedi bod yn nifer y teithwyr. Ac er bod Trenau Arriva Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i geisio ymateb i'r cynnydd, roedd y gost yn uwch na'r disgwyl, a'r gwelliannau felly dipyn yn llai.

Wrth i'r fasnachfraint presennol ddod i ben, mae gobaith o welliant yn y gwasanaethau i deithwyr o 2018 ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y gall y fasnachfraint newydd weddnewid y rheilffyrdd. Er, mi fydd hyn ond yn bosib yn sgil gwelliannau isadeiledd sylweddol, ac yn bennaf, trydaneiddio'r rhwydwaith.

Mae hefyd angen sicrhau rhagor o drenau newydd gyda chyfleusterau modern, a hynny ar frys. Mae'r rhwydwaith yn dioddef ar hyn o bryd oherwydd diffyg capasiti. Oedran y trenau ar gyfartaledd yw 27, gyda'r hynaf yn gerbyd 40 oed.

Mae Trenau Arriva Cymru wedi perfformio'n dda ar sail eu targedau prydlondeb

Yn ystod y fasnachfraint mae Trenau Arrriva Cymru wedi perfformio'n dda yn erbyn eu targedau prydlondeb. Maent hefyd wedi gweld canlyniadau da ym modlonrwydd teithwyr, er i hyn ostwng yn ddiweddar wrth i'r cyhoedd 'laru ar hen drenau â diffyg lle. Mae Arriva hefyd wedi llwyddo i sicrhau gwasanaethau ychwanegol yn ystod cyfnod y fasnachfraint. Mae'r teithiau i feysydd awyr Manceinion a Birmingham wedi bod o fudd mawr i ddefnyddwyr. Wedi iddynt holi Gweinidogion, mae'r Pwyllgor yn hyderus na fydd map y fasnachfraint yn newid o 2018 ymlaen.

Mi fydd datganoli pwerau i Lywodraeth Cymru yn gam sylweddol ac yn newid mawr. Unwaith i'r broses gwblhau, mae'n hollbwysig fod y ddwy Lywodraeth yn parhau i weithio'n agos a rhannu profiadau ac arbenigedd er mwyn sicrhau'r gwasanaeth gorau i deithwyr.

Sylwadau'r Cadeirydd

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David TC Davies AS:

"Roedd y penderfyniad i wobrwyo masnachfraint 2003 heb unrhyw ystyriaeth o gynnydd yn nefnydd y rheilffyrdd yn camgymeriad aruthrol. Yn sgil hyn, ni fuodd buddsoddiad digonol, a bu'n rhaid i deithwyr ddelio â'r sgil-effeithiau, megis diffyg seddi ar drenau brwnt.

Wrth dendro'r fasnachfraint newydd yn 2018, Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am sicrhau gwelliannau. Dywedodd y Llywodraeth wrthom fod hyn yn gyfle am weddnewidiad. Os yn llwyddiannus, mi fydd teithwyr Cymru yn manteisio'n fawr. Ond mae'n bwysig nodi fod y fasnachfraint yn parhau yn draws-ffiniol.

Ni fydd gan ASau rȏl craffu, ac ni fydd modd iddynt ymateb i gwynion gan ddefnyddwyr yn Lloegr. O ganlyniad, ry' ni'n argymell creu protocol sy'n caniatau i ASau yn Lloegr godi cwynion eu hetholwyr gyda'r Ysgrifennydd Cabinet yng Nghymru, a derbyn ymateb." 

Gwybodaeth bellach

Delwedd: iStockphoto