Skip to main content

Mae angen gwella'r portread o Gymru ar y sgrin ar fyrder

16 June 2016

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig o'r farn bod  angen gwella'r portread o fywyd yng Nghymru ar y sgrin yn sylweddol wrth i luosogrwydd yn y cyfryngau gyrraedd lefelau isel sy'n peri pryder.

Mae cynulleidfaoedd teledu yng Nghymru yn dibynnu'n fawr ar eu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, i raddau mwy na'r cynulleidfaoedd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. O'r herwydd, dylai strwythurau cyllido a llywodraethu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus Cymru gael eu hystyried drwy roi ystyriaeth fanwl hefyd i'r cyd-destun penodol y mae'r diwydiant yng Nghymru yn gweithredu ynddo.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, mae'r Pwyllgor yn dod i'r casgliad y dylai darlledwyr Cymru, wrth i'r dirwedd darlledu barhau i ddatblygu, gael llais cryfach o gwmpas y bwrdd pan wneir penderfyniadau. 

Sylwadau'r Cadeirydd

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywed Cadeirydd y Pwyllgor, David TC Davies:

"Mae'n peri pryder bod y fath ddirywiad cyson wedi bod yng nghyswllt portreadu bywyd Cymru ar y sgrin, yng Nghymru a ledled y DU, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae gostyngiad parhaus wedi bod yn y gwariant ar raglenni a wneir ar gyfer Cymru ac yn nifer y rhaglenni hynny. Mae hyn, ochr yn ochr â diffyg atebion masnachol eraill, wedi gwanio rhagor ar luosogrwydd y cyfryngau yng Nghymru.

Er ein bod yn croesawu penderfyniad y Llywodraeth i adolygu cylch gwaith a chwmpas S4C a hefyd sicrwydd gan y BBC y bydd mwy yn cael ei wario ar wasanaethau penodol i Gymru, nid oes llawer o fanylion ar gael am y cyfryw gynigion.  Rydym yn galw am ragor o esboniad a gwybodaeth am effaith a chynnwys y cynigion hyn.

Mae angen i broses gomisiynu'r BBC wella'n sylweddol. Clywsom dystiolaeth feirniadol dros ben am y strwythur presennol. Yn y Siarter nesaf, dylai Cymru gael aelod ar y bwrdd unedol newydd arfaethedig ar gyfer y BBC a dylid cyflwyno Trwydded Gwasanaeth Cenedlaethol i Gymru i ddisodli'r strwythur presennol. Credwn y bydd mesurau o'r fath yn gam gyntaf i fynd i'r afael â'n pryderon. Byddant hefyd yn cefnogi sector cynhyrchu annibynnol ffyniannus yng Nghymru sydd mor bwysig i economi a diwydiant Cymru."

Cynnwys y BBC

Mae BBC Cymru Wales wedi cydnabod bod eu cynnyrch nad yw'n gynnyrch newyddion ar gyfer Cymru wedi lleihau mewn blynyddoedd diweddar. Gwelwyd gostyngiad yn y ddarpariaeth benodol yn y cyfryngau i gynulleidfaoedd Cymru a lefel y portread o Gymru i weddill y DU. Rydym yn croesawu ymateb y BBC i'r cynigion ar gyfer y Siarter Newydd yn neilltuo rhagor o arian i wasanaethau ymhob un o'r Gwledydd ond mae angen rhagor o fanylion.

Trefn Lywodraethu'r BBC

Dylai penderfyniadau sy'n effeithio ar ddarlledwyr yng Nghymru fod yn dryloyw ac yn destun ymgynghori cynhwysfawr â'r rheini sy'n deall y diwydiant orau yng Nghymru. Dylid cael aelod bwrdd ar gyfer Cymru ar fwrdd llywodraethu'r BBC a dylid cyflwyno Trwydded Gwasanaeth Cenedlaethol. Bydd hyn yn rhoi mwy o ryddid i ddatblygu gwasanaethau a fydd yn gwasanaethu cynulleidfaoedd Cymru orau a hefyd bydd yn fodd i graffu'n well ar benderfyniadau.

Gwaith Comisiynu'r BBC

Mae angen i broses gomisiynu'r BBC gael ei diwygio'n sylweddol gan nad yw cwotâu cynhyrchu wedi gweithio mewn perthynas â phortreadu Cymru ar y sgrin. Er ein bod yn croesawu'r cynigion i gael golygydd comisiynu drama i Gymru, dylid ymestyn hyn i genres heblaw newyddion a dylai'r rolau hyn gael eu lleoli yng Nghymru.

S4C

Fel yr unig sianel deledu Cymraeg yn y byd, mae S4C yn hanfodol i dwf parhaus diwylliant a bywyd Cymraeg. Mae penderfyniad y Llywodraeth i ganslo'r gostyngiad yn y grant eleni a'r adolygiad o'r sianel i'w ganmol, yn dilyn ein cais iddi wneud hynny. Ond, nodwn fod ansicrwydd hir yn ffordd aneffeithlon a gwael o ariannu darlledwyr. Felly, rydym yn argymell bod y sianel yn cael ei hadolygu'n rheolaidd i liniaru ar y risg o ansicrwydd i'r dyfodol ac i sicrhau bod ei gylch gwaith i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus yn cael ei gyflawni i'r graddau mwyaf posibl.

Gwybodaeth bellach

Delwedd: iStockphoto