Holi Trenau Arriva Cymru fel rhan o ymchwiliad masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau
9 September 2016
Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yng Nghaerdydd wrth iddynt barhau â'u hymchwiliad i fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
Tystion
Dydd Iau 15 Medi 2061, Y Senedd, Caerdydd
O 2.00yh:
- Ian Bullock, Rheolwr Gyfarwyddwr, Trenau Arriva Cymru
- Roger Cobbe, Cyfarwyddwr Polisi, Trenau Arriva
O 2.45yh
- Elizabeth De Jong, Cyfarwyddwr Polisi, Rail Delivery Group
Pwrpas y sesiwn
Mi fydd y Pwyllgor yn holi Trenau Arriva Cymru, sydd wedi bod yn gweithredu'r fasnachfraint ers Rhagfyr 2003. Mi fydd y Pwyllgor hefyd yn holi Rail Delivery Group, sy'n annog y diwydiant i sicrhau gwasanaeth gwell i'w cwsmeriaid.
Mi fydd y sesiwn yn canolbwyntio ar y perfformiad presennol yng Nghymru a ffyrdd o wella'r rhwydwaith.
Sylwadau'r Cadeirydd
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David TC Davies:
"Wrth asesu'r math o rwydwaith rheilffyrdd sydd angen i gefnogi cymunedau a busnesau yn ddigonol, mae'n bwysig ein bod hefyd yn deall y sialensau sy'n codi wrth reoli'r rhwydwaith.
Mi fyddwn yn holi Trenau Arriva Cymru ar eu perfformiad presennol a bodlonrwydd y cyhoedd gyda'r gwasanaethau. Mi fyddwn hefyd yn ceisio deall pa welliannau y gellir cyflwyno, a pha rwystrau technegol neu ariannol sydd i hyn."
Gwybodaeth bellach
Delwedd: iStockphoto