Skip to main content

Y Pwyllgor Materion Cymreig yn holi Ysgrifennydd Gwladol Cymru

29 March 2019

Wrth i'r ansicrwydd ynglŷn â Brexit barhau, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn bwriadu gofyn am ddiweddariad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch goblygiadau Brexit, cyllid i Gymru yn y dyfodol, ac effaith gohirio'r gwaith ar atomfa Wylfa Newydd.

Pwrpas y sesiwn

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol Alun Cairns AS yn rhoi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig ar ystod eang o faterion, gan gynnwys effaith Brexit ar amaethyddiaeth a masnach yn ogystal â pharatoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb. Gallai'r Pwyllgor hefyd holi ynghylch rôl yr Ysgrifennydd Gwladol wrth gynrychioli Cymru mewn unrhyw drafodaethau gyda'r Llywodraeth.

Bydd cwestiynau'r Pwyllgor yn asesu materion sy'n berthnasol i economi Cymru, gan gynnwys gohirio'r gwaith ar Wylfa Newydd a chynigion am gyllid ar gyfer hybu twf economaidd trwy Gymru gyfan. Bydd y Pwyllgor hefyd yn cyfeirio at dystiolaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar yn ystod ei ymchwiliad i ddatganoli toll teithwyr awyr, datblygiad a allai sicrhau buddiannau economaidd i Gymru yn ôl Llywodraeth Cymru.

Tystion

Dydd Llun 1 Ebrill, Ystafell Wilson, Ty Portcullis

4.30yh

  • Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol
  • Nigel Adams AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol

Gwybodaeth bellach

Delwedd: PC