Skip to main content

Asesu adolygiad a strwythurau ariannu S4C

27 January 2017

Y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal sesiwn arbennig gyda Chadeirydd S4C a'r Prif Weithredwr i drafod adolygiad arfaethedig y Sianel a'i threfniadau ariannu yn y dyfodol. Mi fydd y sesiwn yn ddwyieithog

Tystion

Dydd Llun 30 Ionawr Ystafell Wilson, Portcullis House

O 4.00yh

  • Huw Jones, Cadeirydd, Awdurdod S4C
  • Ian Jones, Prif Weithredwr, S4C

Sylwadau'r Cadeirydd

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David TC Davies:

"Mae S4C yn wynebu cyfnod arall o ansicrwydd yn sgil gohurio'r adolygiad. Ry' ni'n gobeithio asesu'r broses ymgynghori rhwng y Llywodraeth a'r sianel yn ystod y sesiwn. Mae'n hollbwysig sicrhau fod ffynonellau ariannu S4C yn eglur, er mwyn rhoi rhwydd hynt i'r sianel gynllunio'n olygyddol ac yn ariannol yn hir dymor – a hynny er mwyn gweithredu'n effeithiol er budd cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt."

Cefndir

Yn 2015, fe gyhoeddodd y Llywodraeth ostyngiad o 25% i'r grant sy'n cael ei roi i'r Sianel. Er i'r Llywodraeth rewi'r toriadau a chynnig adolygiad i'r sianel, nid yw amserlen yr adolygiad, y cylch gorchwyl na'r Cadeirydd wedi'u cyhoeddi. Yn sgil hyn, mae 'na ansicrwydd pellach o safbwynt ariannu a chwestiynnau ynghylch y posibilrwydd o doriadau pellach i'r grant wrth y Llywodraeth.

Gwybodaeth bellach

Delwedd: iStockphoto