Skip to main content

Gweinidogion y Llywodraeth i ymddangos o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig

23 February 2016

Bydd Edward Vaizey, Gweinidog Diwylliant, Cyfathrebu a'r Diwydiannau Creadigol ag Alun Cairns, Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig Ddydd Mercher 24 Chwefror fel rhan o'r ymchwiliad i ddarlledu yng Nghymru.

Tystion

Mercher 24 Chwefror 2016, Wilson Room, Portcullis House

O 4.15yh

  • Edward Vaizey AS, Gweinidog Diwylliant, Cyfathrebu a'r Diwydiannau Creadigol, Department of Culture, Media and Sport
  • Alun Cairns AS, Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Sylw'r Cadeirydd

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David TC Davies:

"Rydym yn edrych ymlaen at glywed wrth y gweinidogion ac yn awyddus i gael gwell dealltwriaeth o gynlluniau ariannu'r Llywodraeth ar gyfer Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus. Byddwn hefyd yn asesu agwedd y Llywodraeth tuag at ddyfodol rhaglenni Cymreig mewn diwydiant sy'n datblygu'n sylweddol."

Gwybodaeth bellach

Delwedd: iStockphoto