Pwyllgor Materion Cymreig i holi Ymddiriedolaeth y BBC ac S4C
28 January 2016
Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn parhau ȃ'r ymchwiliad i ddyfodol darlledu yng Nghymru. Ymhlith y rhai sy'n rhoi tystiolaeth bydd Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, Rona Fairhead, Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, a Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C.
- Gwyliwch Parliament TV: Dyfodol darlledu yng Nghymru
- Ymchiwiliad: Dyfodol darlledu yng Nghymru
- Pwyllgor Materion Cymreig
- English
Tystion
Ddydd Llun 1 Chwefror, Ystafell Wilson, Portcullis House, Tŷ'r Cyffredin
Am 4yh
- Rona Fairhead, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC
- Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC
Am 4.45yh
- Ian Jones, Prif Weithredwr S4C
- Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C
Am 5.30yh
- Dr. Ruth McElroy, Canolfan Astudio'r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach
Sylwadau'r Cadeirydd
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David TC Davies:
"Mi fydd y sesiwn yn rhoi'r cyfle i'r Pwyllgor ddeall dyfodol rhaglenni Cymreig wrth i'r BBC wynebu adolygiad siarter. Mi fyddwn ni hefyd yn ystyried pwysau ariannnol S4C ac effaith hyn ar gynnwys. Ry' ni hefyd yn awyddus i glywed am yr hyn mae'r BBC ac S4C yn gwneud i gynrychioli anghenion gwylwyr Cymru."
Gwybodaeth bellach
Delwedd: iStockphoto