Pwyllgor Materion Cymreig yn edrych ar effaith cysylltiadau masnach ar ôl Brexit ar economi Cymru
8 March 2018
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn parhau gyda'i ymchwiliad i Brexit: amaethyddiaeth, masnach ac ailwladoli pwerau ddydd Mawrth 13 Mawrth, mewn sesiwn gyda'r Athro Nicholas Perdikis o Brifysgol Aberystwyth.
- Parliament TV: Brexit: amaethyddiaeth, masnach ac ailwladoli pwerau
- Ymchwiliad: Brexit: amaethyddiaeth, masnach ac ailwladoli pwerau
- Pwyllgor Materion Cymreig
- English
Yn 2016, allforiwyd ychydig dros £14.6 biliwn o nwyddau o Gymru, gydag £8.85 biliwn o'r cyfanswm yn mynd at aelod-wladwriaethau'r UE a £5.15 biliwn at wledydd y tu allan i'r UE. Daeth yr allforion o ystod eang o sectorau, gyda pheirianwaith ac offer trafnidiaeth yn feysydd arbennig o werthfawr.
Yn ystod y sesiwn, disgwylir i'r Pwyllgor gwestiynu'r Athro Perdikis – Athro Busnes Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth - ar effaith polisi masnach y DU yn y dyfodol ar economi Cymru - am y blaenoriaethau gwahanol sydd gan sectorau allforio Cymru, pwysigrwydd mewnforion i economi Cymru a sut allai'r gwahanol opsiynau ar gyfer polisi masnach y DU yn y dyfodol effeithio ar economi Cymru yn ei chyfanrwydd.
Tystion
Dydd Mawrth 13, Ystafell Thatcher, Portcullis House, San Steffan
2.15yh
- Yr Athro Nicholas Perdikis, Athro Busnes Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth
Sylwadau'r Cadeirydd
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor David T.C. Davies AS cyn y sesiwn:
"Wedi clywed gan nifer o sectorau allweddol o Gymru yn ystod yr ymholiad, bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio nawr ar sut gallai newidiadau i bolisi masnach y DU yn y dyfodol o ganlyniad i Brexit gael effaith ar economi Cymru yn ei chyfanrwydd.
Ceir nifer o senarios posib ar gyfer cysylltiadau masnach y dyfodol gyda gwledydd y tu fewn a thu allan i'r UE, ac edrychwn ymlaen at gael clywed gan yr Athro Perdikis am beth allai'r senarios hyn olygu i fewnforio ac allforio yng Nghymru."
Gwybodaeth bellach
Delwedd: Creative Commons CC0