Skip to main content

Ohirio: Ysgrifennydd Cymru yn rhoi tystiolaeth

29 June 2016

Mi fydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig Ddydd Mawrth 5 Gorffennaf mewn sesiwn eang fydd yn ystyried Brexit, y diwydiant dur a Mesur Cymru. Dyma fydd y tro cyntaf i Mr Cairns ymddangos o flaen y Pwyllgor fel Ysgrifennydd Gwladol.

Tystion

Dydd Mawrth 5 mis Gorffennaf 2016, lleoliad i'w gadarnhau

Am 12.30

Sylwadau'r Cadeirydd

Dywedoddd Cadeirydd y Pwyllgor David TC Davies:

"Mi fydd penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith sylweddol ar bobl Cymru. Wrth i'r trafodaethau ynghylch ein perthynas ȃ'r Undeb yn y dyfodol gychwyn, mae'n bwysig ein bod yn dod at wraidd yr effaith ar Gymru. Mi fyddwn yn gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol beth fydd ei gynllun i sicrhau fod anghenion pobl Cymru yn cael eu cynrychioli yn y trafodaethau yma.

Ond nid Ewrop yw'r unig fater o bwys i Gymru ar hyn o bryd. Rhaid holi am ddyfodol y diwydiant dur ym Mhort Talbot a dod at wraidd dyfodol cyfansoddiadol Cymru, ym Mesur Cymru. Rydym yn falch fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi gwrando ar gynigion ac argymhellion y Pwyllgor ar y Mesur Drafft, ac yn edrych ymlaen at glywed ei farn ar ddatblygiadau‘r Mesur cyn unrhyw graffu Seneddol pellach."

Gwybodaeth bellach

Delwedd: Parliamentary copyright