Ymchwiliad newydd gan y Pwyllgor Materion Cymreig yn edrych ar ddatganoli Toll Teithwyr Awyr
13 September 2018
Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi lansio ymchwiliad er mwyn edrych ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn datganoli Toll Teithwyr Awyr (TTA) i Gymru, effaith posib datganoli ar feysydd awyr Cymru ac ar deithwyr.
Mae TTA yn dreth a gaiff ei phennu gan y Llywodraeth ar gyfer teithwyr sydd yn hedfan o'r DU ar deithiau pellter byr a hir. Mae TTA yn fater a gedwir yn ôl yng Nghymru ac felly Llywodraeth y DU sydd yn gyfrifol am bennu'r dreth ar gyfer Cymru a Lloegr. Yn ôl amcangyfrifon CThEM, mae Cymru yn cyfrannu £11 miliwn o Dollau Teithwyr Awyr i Drysorlys y DU ar hyn o bryd, sef 0.4% o'r cyfanswm sydd yn dod i'r DU trwy'r TTA.
Sylwadau'r Cadeirydd
Wrth lansio'r ymchwiliad, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor David T. C. Davies AS:
"Ers i Gomisiwn Silk gyhoeddi ei ganfyddiadau ym 2012, mae TTA wedi cael ei datganoli'n llwyr i Senedd yr Alban ac ar gyfer hediadau pellter hir i Gynulliad Gogledd Iwerddon. Yn ogystal â hyn, mae'r dadleuon o blaid ac yn erbyn cymryd camau tebyg yng Nghymru wedi parhau.
Gan ystyried y datblygiadau hyn, bydd ein hymchwiliad yn edrych ar y gwahanol opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â'r mater, sut byddai'r opsiynau hyn yn effeitho ar feysydd awyr yng Nghymru a thu hwnt a sut byddai teithwyr yn cael eu heffeithio. Rydym hefyd am ddysgu o brofiad yr Alban ac edrychwn ymlaen at ddechrau ar ein gwaith wrth ymdrin â'r mater pwysig hwn."
Cylch gorchwyl
Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi penderfynu edrych ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn datganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru. Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth sy'n trafod y materion canlynol:
- Manteision ac anfanteision datganoli Toll Teithwyr Awyr i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
- Effaith datganoli ar feysydd awyr yng Nghymru, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn cynnig hediadau rhyngwladol ar hyn o bryd.
- Gwahanol opsiynau ar gyfer datganoli Toll Teithwyr Awyr, gan gynnwys datganoli llawn neu ddatganoli ar gyfer hediadau pellter hir yn unig.
- Sut mae'r Toll Teithwyr Awyr yn cyd-fynd â chyfrifoldebau datganoledig, er enghraifft datblygu economaidd rhanbarthol, agweddau ar bolisi amgylcheddol a thwristiaeth.
- Materion trawsffiniol, gan gynnwys yr effaith ar deithwyr a meysydd awyr yn Lloegr.
- Effaith datganoli ar Ogledd Cymru a'r meysydd awyr a ddefnyddir gan drigolion Gogledd Cymru.
- Unrhyw wersi a ddysgwyd yn sgil datganoli Toll Teithwyr Awyr i'r Alban.
Gwybodaeth bellach
Delwedd: iStockphoto