Y Pwyllgor Materion Cymreig yn ystyried dyfodol S4C
14 December 2018
Yn dilyn adolygiad annibynnol yn 2017, bydd y Pwyllgor yn ystyried cylch gwaith, cyllid a threfniadau llywodraethu S4C mewn sesiwn dystiolaeth ddydd Mawrth 18 Rhagfyr.
Cefndir
Argymhelliodd yr adolygiad annibynnol gan Euryn Ogwen Willians bod S4C yn cymryd camau i sicrhau ei bod yn dangos cynydd law yn llaw â datblygiadau pwysig technolegol a digidol, ail-strwythuro'r drefn llywodraethu ac annog "newid diwylliannol" o fewn y sefydliad. Mynegodd yr adolygiad bryder am y posibilrwydd na fyddai S4C yn medru parhau i hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant a chymdeithas Gymreig yn effeithiol heb weithredu'r newidiadau hyn.
Pwrpas y sesiwn
Bydd y Pwyllgor yn holi Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C—y corff annibynol sy'n gyfrifol am ddarpariaeth gwasanaethau rhaglenni teledu cyfrwng-Cymraeg—ac Owen Evans, Prif Weithredwr S4C, am gynydd y sianel wrth iddi weithredu'r argymhellion ac yn gofyn pa ddeddfwriaeth sydd ei hangen er mwyn sicrhau bod y newidiadau yn cael eu cyflawni.
Tystion
Mawrth 18 Rhagfyr, Ystafell Grimond, Tŷ Portcullis
14.15yh
- Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C
- Owen Evans, Prif Weithredwr S4C
Gwybodaeth bellach
Delwedd: iStockphoto