Skip to main content

Asesu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau

2 September 2016

Mi fydd ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig i fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn cychwyn Ddydd Llun 5 Medi.

Tystion

Dydd Llun, 5 Medi 2016, Ystafell Grimond, Portcullis House

  • Yr Athro Stuart Cole, Athro Emeritus Trafndiaeth, Prifysgol De Cymru

Cefndir

Mi fydd y sesiwn yn asesu safon y perfformiad presennol ac yn ystyried gwelliannau i'r rhwydwaith yn ystod y fasnachfraint nesaf.

Mae masnachfraint Cymru a'r Gororau yn cwmpasu'r rhan fwyaf o wasanaethau rheilffyrdd Cymru ac yn cael ei reoli gan Arriva ar hyn o bryd.

Mi fydd y broses dendro yn dechrau flwyddyn nesaf, cyn i'r cytundeb presennol ddod i ben yn Hydref 2018. 

Sylwadau'r Cadeirydd

 Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David TC Davies:

"Cafodd yr ymchwiliad yma ei lansio er mwyn sicrhau ein bod yn deall ansawdd trafnidiaeth rheilffyrdd yng Nghymru cyn i'r broses dendro gychwyn flwyddyn nesaf.

Mi fydd y sesiwn yma yn caniatau i ni asesu perfformiad y gwasanaethau ac ystyried pa welliannau y gallwn ddisgwyl erbyn y fasnachfraint newydd flwyddyn nesaf."

Gwybodaeth bellach

Delwedd: iStockphoto