Skip to main content

ASau yn dweud bod rhagor o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU yn allweddol er mwyn sicrhau llwyddiant Cynlluniau Twf a Dinesig yng Nghymru

1 November 2019

Heddiw, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cyhoeddi ei Adroddiad ar Gynlluniau Twf a Dinesig yng Nghymru sydd yn galw ar y Llywodraeth i barhau i gefnogi a buddsoddi yng Nghymru.

Mae Cynlluniau Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Bae Abertawe wedi derbyn cyllid gan Lywodraethau'r DU a Chymru ac yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd. Mae peth cyllid wedi ei glustnodi ar gyfer Cynlluniau Twf Gogledd Cymru a Chanolbarth Cymru ond nid oes cytundeb hyd yn hyn.

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi ystyried llwyddiant y Cynlluniau hyn ac wedi canfod eu bod o fudd i Gymru ac i economi Cymru, ond bod angen i'r Llywodraeth barhau i ddarparu'r adnoddau a'r arian priodol.

Cynllun Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Canfu'r Pwyllgor fod Cynllun Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael ei reoli'n dda ac roedd yn obeithiol ynghylch yr effaith gadarnhaol y dylai ei gael ar yr ardal. Serch hynny, nododd sawl maes y dylid ei wella, ac mae'r Adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth y DU gefnogi'r cynllun mewn modd rhagweithiol wrth gymryd rhan mewn cynigion ar gyfer buddsoddi ar y cyd ag eraill. Mae'r Adroddiad hefyd yn datgan y dylid diwygio adolygiad porth Cynllun Caerdydd er mwyn darparu adolygiad gwell o berfformiad y cynllun yn ei gyfanrwydd. Yn olaf, cynigiodd yr ASau y dylai Llywodraeth y DU ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynllun Dinesig Bae Abertawe

Nododd y Pwyllgor yr heriau a'r feirniadaeth a wynebwyd gan Gynllun Dinesig Bae Abertawe a phwysleisiodd y dylid dysgu oddi wrth unrhyw gamgymeriadau a wnaed a gweithredu unrhyw welliannau. Mae'r Adroddiad yn nodi pwysigrwydd y dull portffolio a gyfeiriwyd ato yn yr Adolygiad Annibynnol ac yn cynnig y dylai pob Cynllun Dinesig a Thwf drwy Gymru gyfan ddilyn y dull hwn.

Mae'r Adroddiad hefyd yn argymell y dylai Llywodraethau'r DU a Chymru ryddhau cyllid yn gynt ar gyfer rhai prosiectau er mwyn lleihau unrhyw risg cysylltiedig i gyllidebau'r cynghorau. Yn ogystal, awgrymodd yr ASau y dylid ystyried prosiectau eraill fel rhan o'r Cynllun, gan gynnwys Morlyn Llanw Bae Abertawe neu Fetro Bae Abertawe, os cyflwynir cynlluniau cost effeithiol.

Cynllun Twf Gogledd Cymru

Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed bod addewid o £240 miliwn wedi ei glustnodi gan Lywodraethau'r DU a Chymru ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru, ond nododd bod y swm yn is na'r hyn a ofynnwyd amdano a galwodd am well cyfathrebu gan Lywodraeth y DU.

Argymhellodd yr Adroddiad y dylai'r partneriaid i gyd barhau i gydweithio er mwyn creu cytundeb sy'n nodi'r telerau erbyn mis Mawrth 2020. Cynigiodd yr ASau y dylid gweithio'n agos gyda phartneriaid ledled Cymru a Lloegr. Er enghraifft, gellid cyflawni hyn drwy sefydlu prosiectau yn ymwneud ag isadeiledd trawsffiniol neu ddatblygu sgiliau. Hefyd, pwysleisiodd y Pwyllgor unwaith eto argymhellion a wnaethpwyd mewn Adroddiad blaenorol ynghylch gohirio gwaith ar atomfa ynni niwclear Wylfa Newydd, ac effaith bosib Cynllun Twf Gogledd Cymru ar y sector.

Cynllun Twf Canolbarth Cymru

Roedd y Pwyllgor yn falch o weld Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei bod wedi pennu swm cychwynnol o £55 miliwn i'r Cynllun a'i bod yn annog Partneriaeth Twf Canolbarth Cymru i weithio tuag at gyflwyno cynlluniau manwl erbyn mis Mawrth 2020. Hefyd, daeth y Pwyllgor i'r casgliad y dylai ardaloedd y tu hwnt i Bowys a Cheredigion sydd â chysylltiadau cryf yn lleol gael y cyfle i fod yn rhan o brosiectau'r Cynllun Twf os ydynt yn addas.

Cefnogaeth Llywodraeth y DU

Ystyriodd y Pwyllgor rôl Llywodraeth y DU, gan gasglu y dylai gydweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phenodi uwch was sifil i oruchwylio'r berthynas a chydlynu timau'r Cynlluniau Twf a Dinesig.

Mae ASau wedi awgrymu hefyd y dylai Llywodraeth y DU ddarparu rhyw fath o gyllid cychwynnol ar gyfer cynghorau sydd wedi derbyn gwahoddiad i wneud cynnig fel rhan o'r cynllun.

Sylwadau'r Cadeirydd

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David T.C. Davies:

“Mae gan Gynlluniau Twf a Dinesig y potensial i drawsnewid economi Cymru.

“Serch hynny, nodwyd sawl maes y gellid ei wella. Mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y byddai llai o gyllid ar gael ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru na'r swm a ofynnwyd amdano yn wreiddiol yn bryder imi. Mae perthnasau cryf yn allweddol ar gyfer sicrhau llwyddiant y cytundebau hyn a dwi'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn egluro ei phryderon yn gliriach yn y dyfodol.

“Hoffwn hefyd weld y Llywodraeth yn cymryd ein hargymhellion eraill o ddifri er mwyn sicrhau llwyddiant y cytundebau hyn, gan gynnwys rhyddhau cyllid yn gynt, ychwanegu prosiectau newydd at y cytundeb, a gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru.

“Edychaf ymlaen at weld y cynlluniau hyn yn llwyddo yn y dyfodol ac at gydweithio â'r Llywodraeth i sicrhau bod Cymru yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn hybu twf economaidd.”

Delwedd: Elliot Brown via Flickr