Ymarfer craffu ar Fesur drafft Cymru yn parhau
19 November 2015
Mi fydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn parhau i graffu ar Fesur drafft Cymru wythnos nesaf. Ddydd Llun 23 Tachwedd, bydd y Pwyllgor yn clywed wrth unigolion o Gymdeithas y Gyfraith yng Nghymru, Y Gymdeithas ar gyfer Cymuned Cyfreithiol Cymraeg Llundain, True Wales a'r arbenigwr datganoli Alan Trench.
- Gwyliwch Parliament TV: Ymarfer craffu cyn y broses ddeddfu ar Fesur Drafft Cymru
- Ymchiwiliad: Cais am dystiolaeth: fersiwn drafft Bil Cymru
- Pwyllgor Materion Cymreig
- English
Tystion
4yh
- Kay Powell, Cymdeithas y Cyfreithwyr
- Huw Williams, Cymdeithas y Cyfreithwyr
- Hefin Rees QC, Y Gymdeithas ar gyfer Cymuned Cyfreithiol Cymraeg Llundain
4.45yh
- Alan Trench
5.30yh
- Rachel Banner, True Wales
- Annie Mulholland, True Wales
- Roger Cracknell, True Wales
Sylw'r Cadeirydd
Dywedodd David T.C. Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig:
"Rydym yn falch o'r cyfle i gael ystod eang o dystion i roi eu sylwadau ar Fesur drafft Cymru. Rydym yn awyddus yn benodol i glywed y farn ynghylch effaith y Mesur ar y broses o weinyddu cyfiawnder yng Nghymru, a'r berthynas rhwng model pwerau cadw yn ȏl ac awdurdodaeth gyfreithiol."
Gwybodaeth bellach
Delwedd: Parliamentary copyright