Senedd y DU yn gweithio gydag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mae Caerdydd
28 May 2019
Mae Senedd y DU yn cyfrannu at gystadleuaeth siarad cyhoeddus mawr ei bri yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd – gŵyl ieuenctid flynyddol yn yr iaith Gymraeg – eleni ym Mae Caerdydd o 27 Mai tan 1 Mehefin.
Cefndir
Mae'r Eisteddfod yn ŵyl ar gyfer 15,000 o blant a phob ifanc dan 25 oed sy'n cystadlu yn ystod yr wythnos mewn cystadlaethau amrywiol fel canu, dawnsio a pherfformio. Mae Senedd y DU yn cyfrannu at gystadleuaeth siarad cyhoeddus a gynhelir ddydd Iau 30 Mai. Bydd disgwyl i'r cystadleuwyr ifanc ffurfio dadleuon cryfion ar bynciau amrywiol, gan gynnwys rhai sydd wedi eu pennu gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin.
Sylwadau'r Cadeirydd
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David T.C. Davies AS:
“Dylid dathlu sgil siarad yn gyhoeddus, ac rwy'n falch bod fy Mhwyllgor yn hyrwyddo doniau siaradwyr Cymraeg ifanc drwy gyfrannu at gystadleuaeth siarad cyhoeddus yr Urdd.
Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi ymrwymo i gynnal busnes drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg pan fo hynny'n bosib, ac rydym yn sicrhau ein bod yn cyflwyno ein gwaith yn y ddwy iaith. Rwyf yn falch bod Guto Bebb AS yn beirniadu'r gystadleuaeth ac rwy'n edrych ymlaen at glywed sut y bydd y cystadleuwyr ifanc yn trafod y pynciau.”
Bydd Guto Bebb, aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig ac AS Aberconwy, yn rhan o'r panel beirniadu a fydd yn penderfynu ar enillydd.
Cyn y gystadleuaeth, dywedodd Guto Bebb:
“Mae'n hanfodol bod Senedd y DU yn annog defnydd o'r iaith Gymraeg, yn enwedig ymysg pobl ifanc, ac mae gweithio ar y cyd â'r Urdd yn rhan bwysig o hynny.
Rwy'n falch o gael cynrychioli'r Pwyllgor Materion Cymreig a chynorthwyo wrth ddewis enillydd. Byddaf yn chwilio am gystadleuwyr sy'n siarad yn frwdfrydig ac yn trafod y pwnc dan sylw mewn modd beirniadol.”
Dywedodd David Clarke, Pennaeth Addysg ac Ymgysylltu, Senedd y DU:
“Mae Senedd y DU yn falch o gael cyfrannu at gystadleuaeth siarad cyhoeddus Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am yr ail flwyddyn yn olynol.
Roedd digwyddiad y llynedd yn llwyddiant mawr ac mae'r bartneriaeth yn ffordd wych o gysylltu siaradwyr Cymraeg ifanc â gwaith Senedd y DU.”
Gwybodaeth bellach
Delwedd: Pixabay