Archwilio effaith Brexit ar ddiwydiannau cludo nwyddau a chludiant ffyrdd yng Nghymru
8 November 2018
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn parhau â'r ymchwiliad i Brexit, masnach a thollau: goblygiadau i Gymru ddydd Llun 12 Tachwedd, gyda sesiwn dystiolaeth yn canolbwyntio ar gludo nwyddau a chludiant ffyrdd.
Mae porthladdoedd Cymru yn hanfodol ar gyfer cludo nwyddau rhwng Iwerddon, Cymru, Lloegr, cyfandir Ewrop a chyfandiroedd eraill. Mae porthladdoedd ‘rholio ymlaen/rholio i ffwrdd', fel yr un yng Nghaergybi, yn hwyluso teithio'n ddi-dor o un pen i Fôr Iwerddon i'r llall. Mae pryderon y gallai anawsterau godi wrth symud nwyddau ym mhorthladdoedd Cymru ar ôl i'r DU adael yr UE.
Yn ystod y sesiwn, bydd y Pwyllgor Materion Cymreig, ynghyd ag arbenigwyr yn y diwydiannau, yn edrych ar oblygiadau economaidd cludo nwyddau a chludiant ffyrdd yng Nghymru a'r heriau unigryw y gallai'r byd masnach yng Nghymru eu hwynebu ar ôl gadael yr UE.
Tystion
Dydd Llun 12 Tachwedd, Ystafell Bwyllgor 6, Tŷ'r Cyffredin
O 4.15yp
- Duncan Buchanan, Cyfarwyddwr Polisi, Cymdeithas Cludiant Ffyrdd
- Sally Gilson, Pennaeth Sgiliau a Pholisi Cymru, Cymdeithas Cludo Nwyddau
- Verona Murphy, Cadeirydd, Cymdeithas Cludiant Ffyrdd Iwerddon
Gwybodaeth bellach
Delwedd: iStockphoto